Skip to main content

Gwregys Gwyrdd Lean Six Sigma

Cost y cwrs: £895

Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.

Disgrifiad o'r Rhaglen

Datblygwyd cwrs hyfforddi Gwregys Gwyrdd Lean Six Sigma ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ym maes Rheoli Prosiectau ar hyn o bryd. Mae Lean Six Sigma yn cynnig y gorau o fethodolegau Lean a Six Sigma, gan helpu i safoni gwaith, dileu gwastraff a diffygion, gwella boddhad cwsmeriaid, a helpu'r busnes i ddod yn fwy proffidiol.

Mae’r pynciau a gynhwysir yn y cwrs hwn yn cynnwys hanfodion Lean Six Sigma, y saith gwastraff, cost ansawdd gwael, diffinio problemau, achos busnes, darganfod prosiectau a dadansoddiad systemau mesur. Ystadegau casgliadol, cydberthyniad a dadansoddiad atchweliad, offer Lean ar gyfer gwelliant, siartiau rheoli a dyluniad arbrofion (DoE) i enwi ond ychydig.

Mae arholiad ar y diwedd i brofi dealltwriaeth y dysgwr o’r deunydd a gwmpaswyd. Ar gwblhau’r cwrs, bydd dysgwyr yn gallu deall datrys problemau a dulliau gwella prosesau, a chynllunio a rheoli prosiect DMAIC Lean Six Sigma go iawn. Nodi elfennau cost ansawdd gwael a gwastraff mewn prosesau, strwythuro system fesur a nodi'r metrigau priodol i gefnogi ymdrechion gwella prosesau meintiol. Deall dulliau dadansoddi gwraidd problemau a dulliau dadansoddi gwerth, cyfathrebu â budd-ddeiliaid allweddol a sbarduno newid yn y sefydliad a defnyddio llawer o'r offer gwella prosesau cyffredin.

Cipolwg

  5 Diwrnod

  Dysgu Ar-lein

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae’r cwrs Gwregys Gwyrdd Lean Six Sigma hwn yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd am wella ansawdd a phrosesau mewn sefydliad a’r rheiny sydd yn ymgymryd â rolau rheoli prosiectau ar hyn o bryd.

Gofynion Mynediad

Ffocws y cwrs hwn yw cymhwyso dulliau DMAIC Lean Six Sigma i brosiectau gwella go iawn o fewn sefydliad y dysgwr. Mae dau bwynt mynediad posibl i’r cwrs hwn:

Dim hyfforddiant blaenorol - mae’r cwrs hwn yn darparu’n llawn ar gyfer y rheiny sy’n dymuno mynd yn syth i lefel y Gwregys Gwyrdd. Mae’r holl ddeunydd cwrs sy’n cael ei ddysgu ar lefel y Gwregys Melyn yn cael ei gynnwys yn y cwrs hyfforddi Gwregys Gwyrdd hwn.

Hyfforddiant Gwregys Melyn blaenorol - mae’r cwrs Gwregys Gwyrdd yn cynnwys yr holl ddeunydd a ddysgwyd ar y cwrs Gwregys Melyn, gan ymddwyn fel cwrs gloywi ac yn adeiladu ar wybodaeth y Gwregys Melyn.

Dilyniant

Mae cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i wneud cais am amrywiaeth o swyddi sydd ar gael gan gynnwys peiriannydd gwelliant parhaus/lean (gweithgynhyrchu), peiriannydd ansawdd a CI, rheolwr cynnyrch a rheolwr ansawdd. Yn ogystal, gallai dysgwyr hefyd symud ymlaen i’r cwrs Gwregys Du gan roi swyddi uwch â chyflogau gwell iddynt.

Cost

£895

Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.