Datblygwyd y cwrs hyfforddi Gwregys Melyn Lean Six Sigma ar gyfer pob gweithiwr, o fewn unrhyw sector, sy’n cyflawni unrhyw swydd. Diben y cwrs hyfforddi Gwregys Melyn yw helpu pob gweithiwr i ychwanegu gwerth at ei fusnes drwy ganfod a datrys meysydd i’w gwella.
Mae’r pynciau a gynhwysir yn cynnwys methodoleg DMAIC, meini prawf targedu prosiectau, dewis prosiectau, rolau tîm, a llais y cwsmer. Mapio ffrydiau gwerth, dadansoddiad o wraidd y broblem, diagramau achos ac effaith, llifau darbodus a chelloedd gwaith, offer gweledol a chapasiti a thagfeydd. Mae arholiad ar ddiwedd y cwrs i brofi dealltwriaeth y dysgwyr o’r deunydd a gwmpaswyd.
Ar gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn gallu rhestru’r offer a’r egwyddorion sylfaenol sy’n sail i fodel gwella Lean Six Sigma, nodi cyfleoedd i wella proses a diffinio cyrchnodau prosiect gwella. Nodi sut i gynllunio ar gyfer casglu data a chyflawni hynny er mwyn darganfod gwreiddiau problemau, disgrifio sut i wirio’r problemau sydd wrth wraidd trafferthion prosesau, rhestru sut i roi technegau a chysyniadau gwella syml ond effeithiol ar waith a nodi sut i gynnal y cynnydd o ganlyniad i wella prosesau.
Cipolwg
2 Ddiwrnod
Dysgu Ar-lein
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cymhwyster Gwregys Melyn Lean Six Sigma hwn yn bwynt lefel mynediad i unigolion sydd am ddechrau ar eu gyrfa mewn Rheoli Prosiectau, gan weithio fel rhan o dîm prosiect.
Gofynion Mynediad
Mae’r cwrs hwn yn agored i unrhyw un a does dim gofynion mynediad, dim ond parodrwydd i gymryd rhan a meddwl agored.
Dilyniant
Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus a phasio’r arholiad Gwregys Melyn bydd dysgwyr yn gallu gwneud cais am amrywiaeth o swyddi megis arolygydd rheoli ansawdd, dadansoddwr gwella prosesau a pheiriannydd prosesau. Byddai dysgwyr yn gallu datblygu eu dysgu ymhellach a helpu i greu mwy o gyfleoedd swyddi trwy astudio naill ai ar y cwrs Gwregys Gwyrdd neu’r cwrs Gwregys Du.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.