Mae’r cwrs Sylfaen ac Ymarferydd PRINCE2 Agile hwn yn ffordd wych i ddysgwyr ymgyfarwyddo â methodoleg Agile mewn ystafell ddosbarth. Mae'r strwythur pedwar diwrnod yn rhoi dealltwriaeth fanwl o ansawdd uchel i ddysgwyr o gysyniadau Agile a gwell dealltwriaeth o sut y cânt eu rhoi ar waith mewn prosiect.
Mae’r pynciau a gynhwysir yn y cwrs hwn yn cynnwys trosolwg o PRINCE2, trosolwg o PRINCE2 Agile, themâu mewn lleoliad Agile, meysydd ffocws. Prosesau mewn lleoliad Agile, ystyriaethau pellach, efelychydd arholiadau ac astudiaeth achos a gweithgareddau PRINCE2 Agile.
Cyflwynir ein cyrsiau ystafell ddosbarth Rheoli Prosiectau Agile gan hyfforddwyr cymwys sy’n meddu ar brofiad helaeth yn y diwydiant rheoli prosiectau gan ddefnyddio methodoleg Agile. Maent i gyd yn darparu gwybodaeth ddigonol am brosesau damcaniaethol ac ymarferol Agile, gan arddangos eu profiad o 15 o flynyddoedd a mwy yn gweithio ym maes rheoli prosiectau.
Cipolwg
4 Diwrnod
Ystafell Ddosbarth Rithwir
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs hwn yn agored i unrhyw un sy’n dymuno ei ddilyn a byddai’n fuddiol iawn i reolwyr prosiectau, gweinyddwyr prosiectau, rheolwyr rhaglenni, penaethiaid newid a llawer mwy.
Gofynion Mynediad
Does dim unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y dystysgrif Sylfaen PRINCE2 Agile ac felly mae’n agored i bawb. Fodd bynnag, bydd angen i ddysgwyr sy’n dymuno dilyn tystysgrif Ymarferydd PRINCE2 Agile fod wedi llwyddo yn un o’r cyrsiau canlynol:
Sylfaen PRINCE2 (neu uwch)
Sylfaen PRINCE2 Agile
Cymhwyster Rheoli Prosiectau (PMQ)
Cyswllt Ardystiedig mewn Rheoli Prosiectau (CAPM)
IPMA Lefelau A, B, C a D (Cyfarwyddwr Prosiectau Ardystiedig)
Dilyniant
Bydd ystod eang o swyddi Rheoli Prosiectau yn agored i ddysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymwysterau Sylfaen ac Ymarferydd PRINCE2 Agile yn llwyddiannus.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.