Mae galw mawr am Ymgynghorwyr Morgeisi, sy’n golygu ei fod yn ddewis gyrfa poblogaidd ar gyfer newidwyr gyrfa, ac ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gyfarwydd â’r Diwydiant Gwasanaethau Ariannol. Mae 80% o Ymgynghorwyr Morgeisi wedi ennill eu hardystiadau CeMAP ac maent yn gwbl gymwys i roi cyngor. Er mwyn gallu cynnig cyngor ar Forgeisi a rhyddhau ecwiti, yn gyntaf rhaid i unigolion astudio’r cyrsiau CeMAP a CeRER ac wedi hynny, pasio’r arholiadau gofynnol.
Ewch ati i ddysgu’r egwyddorion, y sgiliau a’r technegau angenrheidiol, i allu rhoi cyngor yn gyfreithiol i unigolion fel Ymgynghorydd Morgeisi, gan gynnwys Rhyddhau Ecwiti, sy’n parhau i gynyddu o ran poblogrwydd. Bydd angen i ddysgwyr basio eu harholiadau CeMAP 1, CeMAP 2 a CeMAP 3 yn gyntaf cyn gallu ymgymryd â’u hyfforddiant CeRER.
Mae’r cwrs hyfforddi hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau gofynnol i ddysgwyr i’w helpu i baratoi ar gyfer eu harholiadau CeMAP 1, CeMAP 2, CeMAP 3, a CeRER, a’u pasio.
Cipolwg
11 Diwrnod
Dysgu Ar-lein
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Os yw unigolion eisiau dilyn gyrfa fel Ymgynghorydd Morgeisi drwy hyfforddwr arbenigol ac eisiau cynnig gwasanaethau Rhyddhau Ecwiti, bydd y cwrs hyfforddi Ymgynghorydd Morgeisi Proffesiynol hwn yn ddelfrydol ar eu cyfer.
Gofynion Mynediad
I fod yn gymwys i sefyll yr arholiadau CeRER, rhaid bod unigolion wedi pasio eu harholiadau CeMAP 1, CeMAP 2 a CeMAP 3 yn gyntaf. Does dim rhagofynion ar gyfer dilyn yr hyfforddiant CeMAP.
Dilyniant
Drwy gwblhau’r cwrs CeMAP llawn a’r cwrs hyfforddi CeRER hefyd, bydd gan ddysgwyr y wybodaeth a’r ardystiadau sydd eu hangen i allu ymarfer fel Ymgynghorydd Morgeisi unrhyw le yn y DU, gan agor ystod eang o gyfleoedd gyrfa. Mae’r rhain yn cynnwys fel Ymgynghorydd Morgeisi, Ymgynghorydd Diogelu, neu gyflogaeth yn y sectorau bancio cyhoeddus a phreifat.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.