Mae’r Diploma Rhyngwladol BCS mewn Dadansoddi Busnes yn ardystiad a gydnabyddir gan y diwydiant, fydd yn dysgu’r sgiliau, y technegau a’r wybodaeth i chi sydd eu hangen ar Ddadansoddwr Busnes yn y farchnad sydd ohoni heddiw.
Datblygwyd y cwrs hyfforddi hwn i roi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi i wella eich sefydliad. Fel Dadansoddwr Busnes, byddwch yn nodi problemau busnes ac yn helpu eich sefydliadau i ddod o hyd i ddatrysiadau i’r problemau hyn, gan eich gwneud yn ased gwerthfawr i unrhyw sefydliad.
Caiff y Diploma Rhyngwladol mewn Dadansoddi Busnes ei achredu gan BCS, y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG, sef y corff achredu arweiniol mewn Dadansoddi Busnes. Mae meddu ar Ddiploma Rhyngwladol BCS mewn Dadansoddi Busnes yn dilysu eich sgiliau ac yn dangos i’ch cyflogwyr bod gennych y wybodaeth, y galluoedd a’r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn Ddadansoddwr Busnes.
Cipolwg
11 Diwrnod
Ystafell Ddosbarth Rithwir
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae'r cymhwyster hwn wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol busnes a TG sydd eisiau dangos bod ganddynt ddealltwriaeth fanwl o'r arferion dadansoddi busnes gorau.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn ond bydd dysgwyr yn elwa o gael rhywfaint o brofiad mewn rôl dadansoddwr busnes neu feddu ar ddealltwriaeth gyffredinol o ddadansoddi busnes.
Dilyniant
Y swydd fwyaf gyffredin i unigolion sydd wedi cwblhau eu Diploma Rhyngwladol mewn Dadansoddi Busnes yw fel Dadansoddwr Busnes. Gall dysgwyr sy’n cwblhau'r hyfforddiant hwn symud i amrywiaeth o rolau swydd a sectorau, fel Ymgynghori, Rheoli Prosiectau neu Gynllunio Strategol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.