Sylfaen AXELOS ITIL gydag Arholiad
Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae cwrs Sylfaen ITIL® yn addysgu'r newid diweddaraf i faes llafur a fframwaith rheoli gwasanaethau ITIL® gan AXELOS. Mae’r newid yn adlewyrchu’r trawsnewid digidol, a elwir yn “y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol” neu “Diwydiant 4.0”, y mae’r byd yn mynd trwyddo a sut mae angen cynrychioli hynny trwy i ddarparwyr gwasanaethau alinio eu hunain â strategaethau busnesau ac anghenion cwsmeriaid. Mae ITIL® yn darparu canllawiau cynhwysfawr, ymarferol a phrofedig ar gyfer sefydlu system rheoli gwasanaethau.
Er mwyn deall y cwrs manwl hwn yn well ymdrinnir â phynciau amrywiol gan gynnwys cyflwyniad, cysyniadau allweddol rheoli gwasanaethau, pedwar dimensiwn rheoli gwasanaethau, system gwerth gwasanaethau ITIL® ac egwyddorion arweiniol ITIL®. Y gadwyn gwerth gwasanaethau, arferion rheoli cyffredinol, egwyddorion rheoli gwasanaethau ac egwyddorion rheolaeth dechnegol.
Gyda’r cwrs yn cwmpasu dau ddiwrnod bydd dysgwyr yn cael dealltwriaeth drylwyr o faes llafur newydd Sylfaen ITIL®. Mae llawlyfr swyddogol ITIL® a'r maes llafur swyddogol a ryddhawyd yn ddiweddar gan AXELOS wedi’u cynnwys ym mhris y cwrs sy'n sicrhau y bydd gwybodaeth a chymhwyster y dysgwyr yn gyfredol ac yn berthnasol. Mae’r arholiad wedi’i gynnwys yn y pris a bydd yn cael ei sefyll ar ddiwrnod olaf yr hyfforddiant.

Cipolwg
2 Ddiwrnod
Ystafell Ddosbarth Rithwir
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs Sylfaen ITIL® yn addas ar gyfer dysgwyr sydd am ddechrau eu gyrfa ym maes rheoli gwasanaethau TG. Yn ogystal mae’n addas ar gyfer gweithwyr TG presennol sydd am symud i rôl rheoli gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol mewn amrywiol feysydd TG sy’n canolbwyntio ar gyflwyno gwasanaethau. Oherwydd y newidiadau yn y cymhwyster mae’r cwrs hwn hefyd yn addas i’r rheiny sydd eisoes yn meddu ar y cymhwyster Sylfaen ITIL® ac sydd am ddiweddaru eu gwybodaeth i gyd-fynd â’r fersiwn ddiweddaraf.
Gofynion Mynediad
Does dim gofynion mynediad ar gyfer y cwrs Sylfaen ITIL®. Fodd bynnag, argymhellir bod dysgwyr yn cwblhau’r darllen a ddarperir cyn dechrau’r cwrs.
Dilyniant
Gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill ar ôl iddynt ennill tystysgrif gwblhau ar gyfer y cwrs hwn.
Cost
Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.
