Skip to main content

Sylfaen ac Ymarferydd Rheoli Newid APMG

Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu ReAct ar gael i unigolion cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.

Disgrifiad o’r Rhaglen

Rheoli Newid yw’r ddisgyblaeth sy’n pennu sut rydym yn paratoi, yn arfogi a chefnogi unigolion i fabwysiadu newid yn y gweithle’n llwyddiannus, wrth ddarparu dull strwythuredig ar gyfer cefnogi unigolion a thimau i symud o gyflwr cyfredol i gyflwr yn y dyfodol.

Yn ystod y cwrs hwn bydd unigolion yn dysgu sut i:

● Ddatgloi gwrthwynebiad i newid
● Darparu cefnogaeth a chymhelliant effeithiol i unigolion a thimau i groesawu newid
● Tynnu ar ystod o ddulliau proffesiynol i weithredu newid yn llyfn ac yn effeithiol
● Rheoli a hysbysu budd-ddeiliaid allweddol ar hyd y broses newid
● Cyflymu gweithrediad mentrau newid

Mae Rheoli Newid yn parhau i ennill cydnabyddiaeth fel rôl hanfodol o fewn sefydliad, oherwydd y galw cynyddol am ymarferwyr, rheolwyr ac arweinwyr newid cymwysedig a phrofiadol. Mae sefydliadau wedi dechrau talu mwy o sylw at faes Rheoli Newid yn ddiweddar, gan eu helpu i feithrin galluoedd mewnol cryfach i hwyluso lefelau newid cynyddol yn well.

Cipolwg

  4 Diwrnod

  Ystafell Ddosbarth Rithwir

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae’r cymhwyster Sylfaen ac Ymarferydd Rheoli Newid APMG hwn wedi’i anelu at yr holl unigolion sy’n gysylltiedig â newid sefydliadol, gan gynnwys Rheolwyr Newid cyfredol ac yn y dyfodol, yn ogystal â gweithwyr cyflogedig sy’n ymwneud â chynllunio, datblygu a chyflwyno rhaglenni newid.

Gofynion Mynediad

Does dim gofynion mynediad i gofrestru ar y cymhwyster sylfaen hwn, sydd yn ei dro yn ofyniad i gofrestru ar y cymhwyster ymarferydd.

Dilyniant

Bydd y mwyafrif o bobl sy’n ymgymryd â’r cymhwyster hwn yn edrych at weithio fel Rheolwyr Newid Proffesiynol. Bydd Rheolwr Newid yn chwarae rôl allweddol mewn sicrhau bod prosiectau yn bodloni amcanion o ran cyllideb ac o ran amser. Cyflawnir hyn drwy gynyddu dewisiad a defnydd gweithwyr. Yn y rôl hon bydd unigolion yn canolbwyntio ar ochr staffio newid, sy’n cynnwys newidiadau i brosesau busnes, systemau, rôl swydd a swyddogaeth yn ogystal â strwythurau sefydliad.

Cost

Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu ReAct ar gael i unigolion cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.