Uwch Ymarferydd Diogelwch CompTIA (CASP+)
Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu ReAct ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae Cwrs Ardystio Uwch Ymarferydd Diogelwch CompTIA (CASP+) yn gwrs lefel uwch a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol TG sydd o ddifrif ynghylch eu sgiliau seiberddiogelwch.
Delfrydol ar gyfer Peirianwyr Diogelwch Rhwydwaith, Penseiri Diogelwch, a Dadansoddwyr Diogelwch, mae’r ardystiad uchel ei barch hwn yn gallu agor drysau i gyfleoedd gyrfa addawol ac arddangos eich ymrwymiad i addysg a datblygiad proffesiynol parhaus.
Mae cwblhau’r cwrs hwn drwy’r ystafell ddosbarth rithwir dan arweiniad hyfforddwr nid yn unig yn cynnig cyfleustra a hyblygrwydd ond mae hefyd yn sicrhau amgylchedd dysgu real, tra rhyngweithiol, sy’n hyrwyddo dealltwriaeth ddyfnach ac yn caniatáu eglurhadau sydyn.
Cewch fynediad i hyfforddwyr arbenigol sydd wrth law ar bob cam o’r ffordd i ateb cwestiynau a rhoi arweiniad. Gan gwmpasu holl agweddau amcanion arholiad CASP+ a mwy, mae’r cwrs cynhwysfawr hwn wedi’i gynllunio i roi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi sydd eu hangen ar gyfer tasgau’r byd go iawn.
Dyrchafwch eich arbenigedd seiberddiogelwch gydag Ardystiad CASP+ a sefwch allan yn y farchnad TG gystadleuol sydd ohoni heddiw.

Cipolwg
Cwrs hyfforddi 5 diwrnod o hyd dan arweiniad hyfforddwr
Ystafell Ddosbarth Rithwir
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r Cwrs Ardystio CASP+ wedi’i deilwra’n bennaf ar gyfer gweithwyr proffesiynol TG sy’n ceisio gwella eu sgiliau a gwybodaeth seiberddiogelwch. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, Beirianwyr Diogelwch Rhwydwaith, Penseiri Diogelwch, Dadansoddwyr Diogelwch, Rheolwyr TG, Cyfarwyddwyr TG, a Gweinyddwyr Rhwydweithiau.
Gofynion Mynediad
Argymhellir cymhwyster CASP+ ar gyfer unigolion sy'n weithwyr TG proffesiynol gydag o leiaf bum mlynedd o brofiad ymarferol mewn diogelwch technegol neu gyda deng mlynedd o brofiad cyffredinol mewn gweinyddu TG.
Dilyniant
Bydd CASP+ yn ychwanegu dilysiad at sgiliau'r dysgwyr wrth iddynt helpu i ateb y galw cynyddol am uwch weithwyr proffesiynol diogelwch TG. Mae gweithwyr TG proffesiynol sydd â chymhwyster Uwch Ymarferydd Diogelwch CompTIA (CASP+) fel arfer yn weithwyr proffesiynol technegol profiadol sy'n dymuno parhau i gael eu trochi mewn technoleg yn lle rheoli polisïau a fframweithiau seiberddiogelwch. Bydd dysgwyr yn gallu gweithredu mewn rolau swyddi gan gynnwys Dadansoddwr Diogelwch Gwybodaeth, Pensaer Diogelwch, Rheolwr Risg Seiberddiogelwch, Arbenigwr Seiberddiogelwch a Dadansoddwr Risg Seiberddiogelwch. Y cyflog cyfartalog a delir i weithwyr Seiberddiogelwch yn y DU yw £62,500 y flwyddyn.
Cost
Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu ReAct ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.
