Croeso i ddechrau eich taith seiberddiogelwch gyda chwrs ardystio CompTIA CySA+ Cyber Dadansoddwr Seiberddiogelwch.
Trwy ystafelloedd dosbarth rhithwir dan arweiniad arbenigol, byddwch yn ymgolli ym myd seiberddiogelwch, gan ddysgu sut i ddiogelu sefydliadau yn effeithiol rhag bygythiadau seiber.
Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi dealltwriaeth gadarn i chi o ddadansoddi bygythiadau, darganfod tresmasu, ymateb i ddigwyddiadau, ac ymchwiliadau fforensig, i gyd dan arweiniad hyfforddwyr profiadol.
Felly, p'un a ydych chi'n dechrau ar eich gyrfa TG neu'n edrych i wella'ch gwybodaeth bresennol, mae'r cwrs ardystiad CompTIA CySA+ yn garreg sarn berffaith i hyrwyddo'ch gyrfa mewn seiberddiogelwch.
Cipolwg
Cwrs hyfforddi 5 diwrnod o hyd dan arweiniad hyfforddwr
Ystafell Ddosbarth Rithwir
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs ardystiad CompTIA CySA+ wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion sy'n barod i blymio'n ddwfn i fyd seiberddiogelwch. Os ydych chi newydd ddechrau neu'n ystyried gyrfa ym maes seiberddiogelwch, mae'r cwrs hwn yn ddewis ardderchog. Ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio ym meysydd TG a rhwydweithio, gall y cwrs hwn ddarparu llwybr carlam i seiberddiogelwch, gan roi'r wybodaeth a'r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i wneud trawsnewidiad cyflym a llwyddiannus.
Gofynion Mynediad
Mae dealltwriaeth sylfaenol o gyfrifiaduron a rhwydweithiau yn fuddiol. Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol gan fod y cwrs yn ymdrin yn fanwl â'r holl bynciau.
Dilyniant
Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i weithio mewn amrywiaeth o swyddi gan gynnwys Dadansoddwr Diogelwch TG, Arbenigwr Seiberddiogelwch, Dadansoddwr Bygythiadau, Peiriannydd Diogelwch a Dadansoddwr Bregusrwydd a Seiberddiogelwch.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.