Mae’r ardystiad CompTIA Network+ yn gymhwyster gwerthwr-niwtral a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer gweithwyr proffesiynol TG sy’n arbenigo mewn offer a thechnolegau rhwydweithio. Mae'r cwrs Network+ yn dilysu arbenigedd y dysgwyr i ddylunio a gweithredu rhwydweithiau gweithredol a sut y gallant ffurfweddu, rheoli a chynnal dyfeisiau rhwydweithiau yn seiliedig ar dechnolegau rhwydweithio uwch.
Cwmpesir pynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys hanfodion rhwydwaith cyfrifiadurol, y model cyfeirio OSI, cydrannau rhwydwaith, technoleg ether-rwyd, llwybro pecynnau IP a Rhwydweithiau Ardal Eang (WANs). Mae pynciau eraill a gwmpesir yn cynnwys technolegau diwifr, optimeiddio rhwydwaith, rheoli a diogelwch rhwydwaith, polisïau rhwydwaith ac arferion gorau a datrys problemau rhwydwaith.
I gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd angen i ddysgwyr gwblhau arholiad sy'n cwmpasu'r holl bynciau a gynhwysir yn y cwrs hwn. Mae’n rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i ddysgwyr ddatblygu eu gyrfaoedd yn y diwydiant TG.
Cipolwg
5 Diwrnod
Ystafell Ddosbarth Rithwir
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unigolion sy’n dechrau yn y diwydiant TG neu unigolion profiadol sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant TG sydd eisiau symud ymlaen i swyddi eraill.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn felly gall unrhyw un sydd am ddechrau neu ddatblygu eu gyrfa yn y diwydiant TG ddilyn y cwrs hwn.
Dilyniant
Bydd cwrs ar-lein Swyddogol CompTIA Network+ yn helpu dysgwyr i weithredu mewn rolau swyddi TG lluosog gan gynnwys Technegydd Rhwydwaith, Gweinyddwr Rhwydwaith, Cymorth Rhwydwaith, a Desg Gymorth TG.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.