Skip to main content

CompTIA Security+

Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu ReAct ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae’r Cwrs Ardystio CompTIA Security+ yn rhaglen sy’n arwain y diwydiant a gynlluniwyd i roi’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol i chi sydd eu hangen i ragori yn y dirwedd ddiogelwch TG gymhleth sydd ohoni heddiw. Mae’r cwrs hwn yn darparu sylw cynhwysfawr i bynciau megis diogelwch rhwydweithiau, bygythiadau a gwendidau, rheoli mynediad, rheoli hunaniaethau, a chryptograffeg.

Mae’r hyfforddwyr ymrwymedig a phrofiadol yn rhoi profiadau dysgu rhyngweithiol, real sydd yn ddiddorol a hefyd yn effeithiol. Mae’r model ystafell rithwir yn meithrin amgylchedd cymunedol, gan annog cydweithrediad a chyfranogiad gweithredol, sy’n gallu gwella eich dysgu’n sylweddol.

Nid yw ardystiad CompTIA Security+ yn unig yn dilysu eich hyfedredd technegol; mae hefyd yn arddangos eich ymrwymiad i gynnal y safonau diogelwch uchaf yn eich arfer proffesiynol.

Cipolwg

  Mynediad am 6 mis / 100 Awr

  Dysgu Ar-lein

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae’r Cwrs Ardystio CompTIA Security+ yn gweddu’n ddelfrydol i weithwyr proffesiynol TG sy’n anelu at adeiladu sylfaen gref mewn arferion seiberddiogelwch. Mae hyn yn cynnwys gweinyddwyr rhwydweithiau, ymgynghorwyr diogelwch, peirianwyr diogelwch ac archwilwyr TG.

Mae’n ased amhrisiadwy hefyd i unrhyw un sy’n dyheu am lansio ei yrfa diogelwch TG. Mae’r cwrs yn gweithredu fel carreg sarn i ardystiadau seiberddiogelwch lefel uwch, gan ei wneud yn ddewis doeth i weithwyr proffesiynol uchelgeisiol.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn felly mae’n agored i unrhyw un sydd am ddechrau eu gyrfa yn y diwydiant TG neu unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiant TG ar hyn o bryd sydd am ddatblygu eu gyrfa.

Dilyniant

Bydd cwblhau'r Dystysgrif CompTIA Security+ hon yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i chwilio am rolau swyddi amrywiol gan gynnwys fel Technegydd Cymorth TG, Uwch Gymorth TG, Dadansoddwr Seiberddiogelwch, Dadansoddwr Diogelwch Gwybodaeth a Dadansoddwr Diogelwch Rhwydwaith.

Cost

£595

Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu ReAct ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.