Tystysgrif cymhwysedd peilot o bell yw Tystysgrif Cymhwysedd A2 a fwriedir i sicrhau gweithrediad diogel awyrennau di-griw yn agos at bersonau anghyfrannog. Mae’r dystysgrif yn sicrhau lefel briodol o wybodaeth o’r gostyngiadau technegol a gweithrediadol ynghylch risg daearu (y risg o’r awyren ddi-griw yn taro person) ac mae’n caniatáu hedfan drôn marc C2 o fewn Isgategori A2 y Categori Agored yn hedfan 30m i ffwrdd o bersonau anghyfrannog (5m mewn modd cyflymder-isel).
Mae’r cwrs hwn yn gyfan gwbl ar-lein, gyda phedwar modiwl a astudir yn eich amser a’ch gofod eich hun. Ar ôl cwblhau’r pedwar modiwl, byddwch yn cwblhau arholiad ar-lein dwy awr o hyd.
Mae'r pynciau a gwmpesir yn cynnwys: ● Cyflwyniad i A2 CofC ● Meteoroleg ● Perfformiad Hedfan UAS ● Egwyddorion Gweithredu
Yn ystod y cyfnod pontio (tan 31ain Rhagfyr 2022) bydd yr A2 CofC yn caniatáu i’r RP hedfan drôn etifeddol gyda MTOM o <2kg 50m i ffwrdd o bersonau anghyfrannog o fewn Isgategori A2 y Categori Agored ac yn caniatáu i’r RP hedfan drôn etifeddol gyda MTOM <500g o fewn Isgategori A1 y Categori Agored.
Cipolwg
1 Diwrnod
Dysgu Ar-lein
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Dechreuwyr llwyr sy’n dymuno gweithredu dronau.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Dilyniant
Mae pob diwydiant yn gweld Dronau yn cael eu defnyddio fwyfwy i gasglu data byw. Mae cipolygon o'r awyr yn gwella olrhain cynnydd ac yn caniatáu dal problemau'n gynnar. Gall unigolion sy'n ennill gwybodaeth yn y maes hwn wella eu cyflogadwyedd ac ychwanegu pwyntiau allweddol at eu CV.
Dilyniant o’r cwrs hwn yw i Hyfforddiant Hedfan Sylfaenol/trwydded (GVC).
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.