Datblygwyd y Dystysgrif Llinell Olwg Weledol Gyffredinol ar gyfer gweithredu drôn gyda MTOM o <25kg o fewn y Categori Penodol. Ar gwblhau’r GVC yn llwyddiannus byddwch yn gallu gwneud cais i Awdurdod Hedfan Sifil y DU i gael eich Awdurdodiad i Weithredu.
Mae'r pynciau a gwmpesir yn cynnwys:
Modiwlau Cyn-dysgu Ar-lein
1 Diwrnod o Hyfforddiant mewn Ystafell Ddosbarth (Opsiynau rhithwir ar gael ar gais)
Arholiad Theori Ysgrifenedig
Asesiad Hedfan Ymarferol
Cymorth Llawlyfr Gweithrediadau
Cefnogaeth Barhaus i Fydyrwyr
Cipolwg
2 ddiwrnod gyda thua 1 diwrnod cyn-dysgu ar-lein
Gasnewydd, Cymru / Dysgu Ar-lein
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Dechreuwyr llwyr sy’n dymuno gweithredu dronau. Noder, rhaid cwblhau’r Elfen Ddysgu Ar-lein a’r Dull Adnabod Hedfanwr/Gweithredwr cyn cyrraedd ar gyfer y cwrs. Gwneir trefniadau ar gyfer eich Asesiad Hedfan ar ddyddiad nes ymlaen.
Gofynion Mynediad
Noder, rhaid cwblhau’r Elfen Ddysgu Ar-lein a’r Dull Adnabod Hedfanwr/Gweithredwr cyn cyrraedd ar gyfer y cwrs.
Dilyniant
Mae pob diwydiant yn gweld Dronau yn cael eu defnyddio fwyfwy i gasglu data byw. Mae cipolygon o'r awyr yn gwella olrhain cynnydd ac yn caniatáu dal problemau'n gynnar. Gall unigolion sy'n ennill gwybodaeth yn y maes hwn wella eu cyflogadwyedd ac ychwanegu pwyntiau allweddol at eu CV.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.