NOCN_CSkills Awards Dyfarniad Lefel 3 mewn Mesurau Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol
Cost y cwrs: £590
Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.
Disgrifiad o'r Rhaglen
Yr unig gwrs o’i fath sy’n cynnwys BSI PAS 2035 a PAS 2038 ill dau ac a gyflwynir gan gyd-awdur y safonau hyn, yr Athro John Edwards, sydd hefyd yn awdur arweiniol BS7913 – y Safon Brydeinig ar gyfer gwaith ar adeiladau traddodiadol a hanesyddol. Mae dros draean o adeiladau'r DU wedi'u hadeiladu'n draddodiadol. Mae'r adeiladau hyn yn wahanol i adeiladau modern ac mae angen eu trin yn wahanol. Ymunodd Canolfan Astudio'r Amgylchedd â Choleg Adeiladu Cenedlaethol y CITB a'r ymgynghoriaeth adeiladu arbenigol Edwards Hart i ddatblygu'r cwrs deuddydd unigryw hwn sy'n cyflwyno cymhwyster go iawn mewn ôl-ffitio effeithlonrwydd ynni. Mae’r cwrs yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Grŵp Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, grŵp sy’n ymgorffori Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC), lle mae ein tiwtor cwrs yr Athro John Edwards yn darparu rôl arweiniol ym maes ôl-ffitio.
Datblygwyd y cwrs gan ein tiwtor, sy’n arbenigwr ardystiedig mewn adeiladau hŷn a thraddodiadol. Hefyd, fe weithiodd ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol gwreiddiol y mae’r cwrs yn seiliedig arnynt ac arweiniodd ar ddatblygiad y Safon Brydeinig (BS7913) ar gyfer adeiladau hŷn a thraddodiadol. Roedd yn aelod o’r paneli a gynhyrchodd BSI PAS 2030, PAS 2035 a PAS 2038 fel Cyfarwyddwr Edwards Hart, yr unig ymgynghorydd ardystiedig arbenigol gydag arbenigedd mewn ôl-ffitio adeiladau traddodiadol i dderbyn gwahoddiad i fynychu. Ar gwblhau’n llwyddiannus dyfernir Dyfarniad Lefel 3 mewn Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol (QCF) i gyfranogwyr. Mae hwn yn gymhwyster a gymeradwywyd gan y llywodraeth ac fe'i datblygwyd i weddu i gontractwyr ac ymgynghorwyr. Mae’r cymhwyster hwn yn darparu’r gydnabyddiaeth i unigolion eu bod wedi cyflawni lefel o wybodaeth a gydnabyddir yn annibynnol.
Pynciau a gwmpesir:
● Deall cronoleg, arddulliau adeiladu, oed a nodweddion adeiladau traddodiadol (cyn-1919) a deall sut mae perfformiad thermol ac ynni ac effeithlonrwydd adeiladau traddodiadol (cyn-1919) yn cael eu hasesu
● Deall effaith gosod mesurau ôl-ffitio effeithlonrwydd ynni i adeiladau traddodiadol (cyn-1919) a gosod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn perthynas â galweddigaethau crefft
● Deall yr ystod o systemau a mesurau effeithlonrwydd ynni sydd ar gael
Bydd bwcio yn cau 15 diwrnod cyn dechrau'r cwrs.

Cipolwg
2 Ddiwrnod
Wyneb i wyneb
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae'n ddelfrydol ar gyfer Aseswyr Ôl-ffitio, Dylunwyr a Chydlynwyr neu unrhyw grefftwyr sy'n gweithio ar adeiladau traddodiadol a gwarchodedig. Os ydych yn rhan o waith ôl-ffitio a ariennir gan y Llywodraeth neu ddarparwr ynni (ECO), efallai bydd yn ofynnol i chi feddu ar y cymhwyster (QCF) Dyfarniad Lefel 3 mewn Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol. Manyleb ôl-ffitio safon y DU ‘PAS 2035: Mae’r fanyleb ar gyfer ôl-ffitio anheddau er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni yn gwneud hyn yn ofyniad. Mae’r cymhwyster hefyd yn ofynnol o dan ‘PAS 2038: 2021: Ôl-ffitio adeiladau annomestig er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni - Manyleb', ar gyfer unrhyw aelodau o dimau prosiect sy'n ymwneud â'r asesiad ôl-ffitio (Cymal 5), gwerthuso opsiynau gwella (Cymal 6), sefydlu canlyniadau bwriadedig (Cymal 7), paratoi cynllun gwella (Cymal 8) neu gyflwyno neu hwyluso ceisiadau am gymeradwyaeth statudol (Cymal 10), pan fo gan yr adeilad warchodaeth arbennig neu mae o adeiladwaith traddodiadol. Mae hyn yn debygol o olygu'r 'Gweithiwr Proffesiynol Arweiniol mewn Ôl-ffitio' a'r 'Aseswr Ôl-ffitio'.
Gwybodaeth bwysig:
Unwaith y derbynnir taliad anfonir y llawlyfr cwrs at gyfranogwyr mewn fformat electronig. Gwneir unrhyw ddiweddariadau ar y cwrs. Cwrs deuddydd yw hwn, ond mae angen 21 awr o ddysgu ac felly bydd yn ofynnol i bob cyfranogwr ymgymryd â gwaith cyn-cwrs hanfodol yn unol â chyngor hyfforddwr y cwrs; mae hyn waeth beth fo’u gwybodaeth cyn-cwrs am y pwnc.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Dilyniant
- Cydlynydd Ôl-ffitio
- Aseswr Ôl-ffitio
Cost
£590
Mae'n bosibl y bydd cyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol) a/neu React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.
