Os ydych chi'n osodwr gwresogi, yn blymwr neu'n beiriannydd nwy wrth eich gwaith, ac yn awyddus i ennill cymhwysedd er mwyn bodloni gofynion Rhan L - yr adran o'r Rheoliadau Adeiladu sy'n ymdrin ag effeithlonrwydd ynni - yna dyma'r cwrs i chi. Mae Rhan L yn cyfeirio at y Rheoliadau Adeiladu sy'n berthnasol i arbed tanwydd ac ynni. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i adeiladu ar eich dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o'r rheoliadau hyn er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr yn ogystal â'ch cydymffurfiaeth gyfreithiol.
Mae'r pynciau'n cynnwys:
Rheoliadau adeiladu
Deddfwriaeth
Maint Boeleri
Egwyddorion Boeleri cyddwyso
Safonau gofynnol ar gyfer gosod neu ailosod silindr dŵr poeth
Cipolwg
1 Diwrnod
Gelli Aur, Llandeilo / Caerdydd, Cymru
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae’n ofyniad cyfreithiol i unrhyw un sy’n gosod systemau gwresogi domestig a dŵr poeth gydymffurfio â Rhan L y Rheoliadau Adeiladu. Felly, mae’r cwrs a’r cymhwyster Rhan L wedi’u hanelu at osodwyr presennol, peirianwyr nwy a phlymwyr neu unrhyw un sy’n gosod systemau gwresogi a dŵr poeth newydd. Bydd angen i ymgeiswyr fod wedi cael profiad yn y diwydiant gwresogi er mwyn deall deunydd y cwrs.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.