Bydd unigolion sy’n mynychu’r cwrs hwn yn ennill dealltwriaeth o’r hyn yw ôl-ffitio, beth mae’n ei gyflawni a sut y gall effeithio ar eu dyfodol nhw eu hunain a dyfodol eu diwydiant.
Bydd y cwrs yn cwmpasu ystod eang o bynciau, a gyflwynir gan weithiwr proffesiynol blaenllaw yn y sector. Mae rhai o’r pynciau dan sylw yn cynnwys: • Deddfwriaeth, safonau a chanllawiau ar gyfer ôl-ffitio domestig • Cydymffurfio â manylebau • PAS 2035 a’r hyn mae’n ei olygu i’r diwydiant • Mathau o ôl-ffitio domestig • Strwythurau trefniadol yn y diwydiant ôl-ffitio domestig • Deunyddiau ôl-ffitio domestig • Dogfennau a ddefnyddir • Sut i ddefnyddio’r wybodaeth a enillir • Egwyddorion sylfaenol ar gyfer gosodiadau ôl-ffitio domestig
Cipolwg
2 Diwrnod
Wyneb i wyneb
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Cynlluniwyd y cwrs ar gyfer newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant sydd ag ychydig neu ddim dealltwriaeth o ôl-ffitio domestig ac ar gyfer gosodwyr profiadol nad ydynt hyd yma yn meddu ar unrhyw gymwysterau mewn ôl-ffitio domestig.
Gofynion Mynediad
Cynlluniwyd y cwrs ar gyfer newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant sydd ag ychydig neu ddim dealltwriaeth o ôl-ffitio domestig ac ar gyfer gosodwyr profiadol nad ydynt hyd yma yn meddu ar unrhyw gymwysterau mewn ôl-ffitio domestig.
Dilyniant
Mae’r cwrs hwn yn gam perffaith tuag at sicrhau cyflogaeth a/neu hyfforddiant pellach a chymwysterau yn y farchnad Ôl-ffitio sy’n tyfu’n gyflym. Hyfforddiant Aseswr Ôl-ffitio Dyfarniad Lefel 3 mewn Mesurau Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol Diploma Lefel 5 mewn Cydlynu Ôl-ffitio a Rheoli Risg Lefel 2 a/neu 3 mewn Inswleiddio Adeiladau a Thriniaethau
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.