Os ydych chi’n osodwr gwres, plymwr neu beiriannydd nwy gweithredol, yn edrych i ennill cymhwysedd gydag effeithlonrwydd ynni, yna dyma'r cwrs i chi. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i adeiladu ar eich dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o'r rheoliadau er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr yn ogystal â'ch cydymffurfiaeth gyfreithiol.
Mae'r pynciau yn cynnwys:
● Rheoliadau Adeiladu ● Deddfwriaeth ● Mesur Boeler ● Egwyddorion Boeler cyddwyso ● Safonau gofynnol ar gyfer gosod neu amnewid silindr dŵr poeth
Cipolwg
Hanner Diwrnod
Rydaman, Sir Gâr
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae'r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer plymwyr a pheirianwyr gwresogi profiadol sy'n ceisio gwella eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o systemau ynni-effeithlon.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gall dysgwyr symud ymlaen i'r cwrs Gosod Pympiau Gwres NICEIC.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.