Skip to main content

Microsoft Office Specialist - Expert Word

Course cost: £100

React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.

Disgrifiad o'r Rhaglen

Ardystiad Microsoft Office Specialist (MOS) yw cymhwyster cyfrifiadurol enwocaf y byd ar gyfer profi sgiliau a galluoedd unigolyn yn rhaglenni Microsoft Office. Gall ennill ardystiad MOS helpu unigolion i gynyddu eu cynhyrchiant a'u gwerth trwy fod â gwell gwybodaeth am offer busnes hanfodol heddiw o fewn y pecyn Microsoft Office. Ar ôl ennill ardystiad MOS, mae dysgwyr yn cael mynediad ar unwaith i Dystysgrif a Thrawsgrifiad Digidol, yn ogystal â logo MOS i’w roi ar eu CVs a’u bathodynnau digidol.

Mae’r pynciau a gwmpesir yn y cwrs hwn yn cynnwys rheoli dogfennau a thempledi, paratoi dogfennau ar gyfer cydweithredu, defnyddio a ffurfweddu opsiynau iaith, dod o hyd i gynnwys dogfen, ei ailosod a'i ludo, creu a rheoli arddulliau a chreu elfennau dylunio wedi'u teilwra. Cwmpesir pynciau eraill hefyd gan gynnwys creu a rheoli tablau o ffigurau, rheoli ffurflenni, meysydd a rheolaethau, creu ac addasu macros a pherfformio Postgyfuno.

Bydd dysgwyr sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn yn cael profiad uniongyrchol o ddefnyddio meddalwedd Microsoft Word. Maen nhw’n arddangos i gyflogwyr eu bod yn gallu defnyddio'r meddalwedd ar safon uchel yn y diwydiant ac yn gallu dangos y defnydd o nodweddion arbenigol Microsoft Word ac yn gallu cwblhau tasgau ar eu pen eu hunain.

Cipolwg

  22 Awr

  Dysgu Ar-lein

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am wneud eu hunain yn fwy amlwg yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni heddiw a chynyddu'r cyfleoedd gwaith y gallant ymgeisio amdanynt. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer staff o fewn sefydliad sydd am gynyddu eu cynhyrchiant a'u gwerth i'r busnes.

Gofynion Mynediad

Argymhellir bod y dysgwr wedi cwblhau ardystiad Microsoft Office Specialist Word cyn rhoi cynnig ar yr ardystiad Expert.

Dilyniant

Mae hyfforddiant Microsoft Office Specialist a thystysgrif gwblhau yn cael eu parchu’n fawr mewn llawer o ddiwydiannau ac mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr ledled y byd. Gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill ar ôl iddynt ennill tystysgrif gwblhau ar gyfer y cwrs hwn.

Cost

£100

React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.