Mae ardystiadau Autodesk yn gymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant a all helpu dylunwyr, peirianwyr a gweithgynhyrchwyr lwyddo ar unrhyw gam o’u gyrfaoedd. Wrth i fwy a mwy o ddiwydiannau brofi bwlch sgiliau wrth iddynt gyflogi talent newydd, mae ardystiadau Autodesk yn darparu dilysiad dibynadwy o sgiliau a gwybodaeth.
Cwmpesir pynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys cymhwyso sgiliau lluniadu sylfaenol, lluniadu gwrthrychau, lluniadu gyda chywirdeb ac addasu gwrthrychau. Cwmpesir pynciau eraill gan gynnwys defnyddio technegau lluniadu ychwanegol, trefnu gwrthrychau, ailddefnyddio cynnwys presennol, anodi lluniadau a chynlluniau gosod ac argraffu.
Dechreuwch gydag ardystiad Defnyddiwr Ardystiedig Autodesk (ACU) i wella llwyddiant academaidd a pharatoi ar gyfer coleg neu yrfa. Yna ewch ati i gyflymu datblygiad proffesiynol, gwellwch gynhyrchiant a chynyddwch hygrededd gyda Gweithiwr Proffesiynol Ardystiedig Autodesk.
Cipolwg
150 Awr
Dysgu Ar-lein
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno ennill gwybodaeth a sgiliau hanfodol mewn meddalwedd Autodesk, gan ddod yn barod i ymuno â'r farchnad swyddi neu wella eu sgiliau wrth ddilyn llwybr gyrfa newydd.
Gofynion Mynediad
Mae hwn yn gwrs lefel mynediad felly mae'n agored i bob dysgwr sy'n dymuno gwella eu CVs a chael profiad gyda meddalwedd Autodesk.
Dilyniant
Mae ardystiadau Defnyddiwr Ardystiedig Autodesk (ACU) yn gwella CVs dysgwyr, gan ddarparu tystiolaeth o gymhwysedd a hyfedredd. Mae ardystiad ACU yn ffordd wych i ddysgwyr sydd â thua 150 awr o brofiad meddalwedd Autodesk yn y byd go iawn ddilysu eu sgiliau meddalwedd. Mae ennill ardystiadau lefel Defnyddiwr yn rhoi hyder i ddysgwyr wrth iddynt barhau i feistroli cynhyrchion Autodesk a dilyn ardystiadau lefel broffesiynol yn y dyfodol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.