Skip to main content

IOSH Rheoli'n Ddiogel

Cost y cwrs: £240

React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.

Disgrifiad o'r Rhaglen

Y ffordd orau o sicrhau llwyddiant hyfforddiant diogelwch ac iechyd yw cael pobl i gymryd rhan lawn, cael hwyl a dysgu trwy wneud. Nod y cwrs hwn yw galluogi dysgwyr i feddwl o ddifrif am yr hyn maen nhw’n ei ddysgu - a chael yr hyder a’r brwdfrydedd i’w roi ar waith pan maen nhw yn ôl yn y gwaith - fel bod pawb yn sylwi ar y gwahaniaeth.

Nid yw Rheoli'n Ddiogel yn debyg i unrhyw gwrs arall. Mae’n rhaglen ymarferol, yn llawn arweiniad cam wrth gam gyda ffocws busnes craff. Mae’r wybodaeth yn y cwrs hwn yn hanfodol wrth gael diogelwch ac iechyd wedi’u hymgorffori ar draws unrhyw sefydliad. Mae ffeithiau cofiadwy a phryfoclyd ac astudiaethau achos o bob rhan o'r byd yn helpu i bwysleisio’r pwyntiau yn ystod y cwrs.

Caiff amrywiol bynciau eu cynnwys yn Rheoli’n Ddiogel gan gynnwys asesu a rheoli risgiau, deall cyfrifoldebau a pheryglon, ymchwilio i ddigwyddiadau a mesur perfformiad. Ategir pob modiwl gan enghreifftiau cwbl glir a senarios adnabyddadwy, ac mae crynodebau yn atgyfnerthu’r pwyntiau dysgu allweddol.

Cipolwg

  3 Diwrnod

  Dysgu Ar-lein

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae'r cwrs Rheoli'n Ddiogel wedi’i gynllunio ar gyfer rheolwyr a goruchwylwyr mewn unrhyw sector, ac unrhyw sefydliad ar draws y byd. Ni fydd dysgwyr yn sydyn yn troi’n arbenigwyr diogelwch – ond fe fyddan nhw’n diweddaru eu gwybodaeth ynghylch y camau gweithredu ymarferol y mae angen iddynt eu cymryd, ac yn ennill y wybodaeth a’r offer i fynd i’r afael â’r materion diogelwch ac iechyd maen nhw’n gyfrifol amdanynt. Yn bwysicaf, mae’r cwrs Rheoli’n Ddiogel yn gwneud achos cryf dros ddiogelwch ac iechyd fel rhan hanfodol o reolaeth a busnes o ddydd i ddydd.

Gofynion Mynediad

Does dim gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn ac mae ar gael i unrhyw unigolyn sydd am gymryd rhan.

Dilyniant

Yn dilyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn deall pwysigrwydd rheoli iechyd a diogelwch yn y gweithle. Byddan nhw’n gallu diffinio’r prif dermau sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch, ac yn deall sut i asesu, lleihau, nodi a rheoli risgiau yn y gweithle. Mesur iechyd a diogelwch yn eu gweithle eu hunain a chymhwyso egwyddorion arferion gorau i systemau iechyd a diogelwch eu sefydliad.

Cost

£240

React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.