Mae Gweithio’n Ddiogel yn mynd i’r afael â hyfforddiant diogelwch ac iechyd mewn dull hollol wahanol. Mae’n rhaglen effaith uchel a gynlluniwyd i fod yn bleserus ac i gael unigolion i gymryd rhan gyflawn. Mae'r cynnwys wedi'i gynllunio ar sail yr hyn y mae angen i bobl ei wybod yn ymarferol, ac nid ar iaith gyfreithiol, annymunol. Mae Gweithio’n Ddiogel ar gyfer pobl ar unrhyw lefel, mewn unrhyw sector ar draws y byd, sydd angen sylfaen mewn hanfodion diogelwch ac iechyd. Mae’n rhoi dealltwriaeth i bawb yn y gwaith ynghylch pam mae’n rhaid iddynt weithio’n ddiogel.
Ymdrinnir ag amrywiol bynciau yn y cwrs hwn gan gynnwys amlinelliad o ddiogelwch ac iechyd galwedigaethol, diffinio peryglon a risgiau, nodi peryglon cyffredin a gwella perfformiad o ran diogelwch.
O’r cwrs hwn, gall busnesau gael tawelwch meddwl o hyfforddiant sydd wedi'i gynllunio ac sydd â sicrwydd ansawdd. Hyfforddiant ardystiedig ar gyfer ei staff a gydnabyddir yn fyd-eang, sy’n cael ei barchu ac sy’n tarfu cyn lleied â phosibl ar ddiwrnodau gwaith a shifftiau, a dysgu effeithlon ac effeithiol. Yn ogystal, mae ffeithiau cofiadwy a phryfoclyd ac astudiaethau achos o bob rhan o’r byd er mwyn helpu i atgyfnerthu’r dysgu drwy gydol y cwrs.
Cipolwg
1 Diwrnod
Dysgu Ar-lein
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae Gweithio’n Ddiogel ar gyfer unigolion ar unrhyw lefel, mewn amrywiol sectorau ledled y byd. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sydd angen sylfaen mewn hanfodion diogelwch ac iechyd. Mae’n rhoi dealltwriaeth i bawb yn y gwaith o pam mae’n rhaid iddynt weithio’n ddiogel wrth gyflwyno'r cwrs mewn ffordd bleserus.
Gofynion Mynediad
Does dim gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn ac mae ar gael i unrhyw unigolyn sydd am gymryd rhan.
Dilyniant
Ar gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, rhoddir tystysgrif IOSH Gweithio’n Ddiogel i ddysgwyr. Gall dysgwyr ddisgwyl canlyniadau fel cynhyrchiant uwch o ganlyniad i golli llai o oriau oherwydd salwch a damweiniau. Gwell diwylliant o ymwybyddiaeth diogelwch ar draws y cwmni a gwerthfawrogi mesurau diogelwch. Staff sy’n cymryd rhan yn ymarferol i wella’r gweithle ac enw da gwell o fewn y gadwyn gyflenwi.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.