Skip to main content

IOSH Rheoli Iechyd a Lles Galwedigaethol

Cost y cwrs: £110

React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae iechyd a lles wedi dod yn ystyriaeth strategol i fusnesau. Yn gynyddol, mae angen i sefydliadau ganolbwyntio ar yr hyn maen nhw’n ei wneud a hefyd sut maen nhw’n ei wneud e. Adroddir bod absenoldeb oherwydd salwch o ganlyniad i salwch meddwl yn unig yn costio mwy nag £8bn y flwyddyn i economi’r DU. Mae sefydliad sy’n iach ac yn cadw’n dda yn fwy tebygol o fod yn gynhyrchiol, yn arloesol ac yn gystadleuol.

Dros y cwrs undydd hwn, bydd unigolion yn dysgu pam ei bod yn bwysig rheoli amrywiadau yn iechyd pobl, beth i'w ystyried mewn asesiad o anghenion iechyd, sut i adnabod gweithiwr 'iach', a sut i helpu cydweithwyr i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl salwch. Bydd dysgwyr yn ennill yr offer a'r technegau i wella iechyd a lles ar draws eich sefydliad.

Ar gwblhau’n llwyddiannus, gall dysgwyr ddisgwyl gweld canlyniadau megis gwell ymwybyddiaeth o iechyd a lles ar draws y sefydliad, sy’n arwain at weithle iachach a mwy cynhyrchiol. Mae llai o oriau’n cael eu colli oherwydd afiechyd a llai o bresenoliaeth, gan arwain at fwy o gynhyrchiant a staff rhagweithiol sy’n cyfrannu at wella’r gweithle.

Cipolwg

  1 Diwrnod

  Dysgu Ar-lein

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu sy’n dyheu am weithio, mewn rôl reoli neu oruchwylio. Mae wedi’i gynllunio i roi’r offer a’r technegau iddynt i wella iechyd a lles ar draws sefydliad. Ni fydd dysgwyr yn dod yn arbenigwyr iechyd a lles dros nos - ond bydd yn ei helpu i ddod yn rheolwyr llinell sy’n poeni o ddifrif am iechyd a lles ased pwysicaf sefydliad - ei bobl.

Gofynion Mynediad

Does dim gofynion mynediad ar gyfer y cwrs IOSH Rheoli Iechyd a Lles Galwedigaethol. Mae hyn yn galluogi unrhyw reolwr neu oruchwyliwr sy’n cymryd y cwrs i gael effaith gadarnhaol ar unwaith ar les ac iechyd meddwl eu cwmni

Dilyniant

Mae cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn galluogi unigolion i gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles eu sefydliad. Gallai dysgwyr ymestyn eu hastudiaethau drwy ein cyrsiau IOSH Rheoli’n Ddiogel ac IOSH Gweithio’n Ddiogel.

Cost

£110

React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.