Yn ôl y gyfraith mae’n ofynnol i unrhyw fusnes sydd â thrwydded i werthu alcohol, gan gynnwys tafarnau bach, adwerthwyr, clybiau nos mawr, caffis, tai bwyta, gwestai a chyfleusterau chwaraeon, i gael o leiaf un daliwr trwydded bersonol. Er mwyn dod yn ddaliwr trwydded bersonol, dylai dysgwyr gael cymhwyster daliwr trwydded reoledig.
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi’r wybodaeth i ddysgwyr i gael eu trwydded bersonol a’i’ galluogi i werthu neu awdurdodi gwerthiant alcohol. Cwmpesir pynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys cyfraith trwyddedu, trwyddedau personol a thrwyddedau adeiladau, amddiffyn plant, pwerau a gorfodaeth, digwyddiadau dros dro ac adwerthu alcohol yn gyfrifol.
Asesir y cymhwyster hwn trwy arholiad amlddewis. Gellir sefyll yr arholiad yng nghartref y dysgwyr ar eu cyfrifiadur. Bydd angen gwegamera, ffôn clyfar, dull adnabod ac ardal unig ar ddysgwyr.
Cipolwg
8 Awr
Dysgu Ar-lein
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer goruchwylwyr dynodedig mangre sydd yn neu sydd angen ddod yn ddaliwr trwydded, rheolwr bwyty neu far sy'n dymuno gwerthu neu awdurdodi gwerthu alcohol trwy fanwerthu. Mae’r cwrs hwn hefyd yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy’n gweithio yn niwydiannau bwyd neu adwerthu sy’n dymuno ehangu eu gwybodaeth.
Gofynion Mynediad
Amherthnasol
Dilyniant
Mae cwblhau’r cwrs hwn a chael trwydded bersonol yn galluogi dysgwyr i weithredu fel goruchwyliwr mangre dynodedig ac i werthu neu awdurdodi gwerthiant alcohol mewn unrhyw fusnes.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.