Skip to main content

Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Cost y cwrs: £10

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae llawer o bobl yn gweld nad yw iechyd meddwl a salwch meddwl yn bynciau hawdd i siarad amdanynt, hyd yn oed gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr. Mae byw gydag iechyd meddwl gwael yn ofnadwy a gall deimlo fel nad ydych yn gallu estyn allan am gymorth a chefnogaeth. Dyma’r amser i godi ymwybyddiaeth a gwneud newidiadau i’r ffordd rydym yn meddwl am iechyd meddwl. Mae angen i ni fynd i’r afael â’r diwylliant rydym yn ei greu yn y gweithle a darparu’r cymorth iawn i bobl sy’n byw gyda salwch meddwl.

Mae’r pynciau sy’n cael sylw yn y cwrs hwn yn cynnwys deall iechyd meddwl a salwch meddwl, beth sy’n gallu effeithio ar iechyd meddwl, iselder, gorbryder, straen. Wynebu’r stigma, beth yw lles, lles yn y gweithle a lles emosiynol.

Mae’r cwrs hawdd ei ddilyn, awr o hyd hwn gydag ymarferion rhyngweithiol yn archwilio effaith byw gyda heriau iechyd meddwl a sut i’w adnabod ynom ni ein hunain, ein cydweithwyr a sut i ymateb a gofyn am gymorth. Gellir gwneud cwis anffurfiol ar ddiwedd y sesiwn i gadarnhau dysgu a rhoddir tystysgrif Coleg Sir Gâr ar ôl ei gwblhau.

Cipolwg

  1 Awr

  Dysgu Ar-lein

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer unigolion y tu mewn a’r tu allan i’r gweithle sydd eisiau deall mwy am iechyd meddwl a’r camau i gefnogi rhywun sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl neu eu hunain.

Gofynion Mynediad

Amherthnasol

Dilyniant

Yn dilyn cwblhau’r cwrs hwn, gall dysgwyr gwblhau’r cwrs Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i Reolwyr ar-lein, y Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl neu’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Oruchwylwyr.

Cost

£10

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.