Skip to main content

Iechyd Meddwl ar gyfer Arweinwyr a Rheolwyr

Cost y cwrs: £10

Disgrifiad o'r Rhaglen

Gall salwch meddwl gael effaith enfawr ar unigolyn, ei amgylchedd gwaith, cydweithwyr, rheolwyr a pherfformiad y gweithlu cyfan. Fel arweinydd neu reolwr, mae’n bwysig cymryd problemau iechyd meddwl o ddifrif. Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar bob cyflogwr i beidio â gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr ac ymgeiswyr anabl, gan gynnwys salwch meddwl, o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (2010). Mae problemau iechyd meddwl yng Ngweithlu’r DU yn costio bron £35 biliwn y flwyddyn i gyflogwyr. Mae hynny'n gost o £1300 am bob gweithiwr yn economi'r DU, yn ôl y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl.

Mae’r pynciau a gwmpesir yn cynnwys cyfrifoldebau rheolwr neu arweinydd, beth all effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl, cefnogi salwch meddwl yn y gweithle, arwyddion i gadw golwg amdanynt. Heriau wrth gefnogi iechyd meddwl yn y gweithle, creu amgylchedd gwaith diogel ac iach a sut i siarad a sut i wrando.

Mae’r cwrs hawdd ei ddilyn, dwy awr o hyd hwn gydag ymarferion rhyngweithiol a dysgu trochol sy’n cael ei asesu trwy gwis rhyngweithiol yn archwilio rôl yr arweinydd neu'r rheolwr wrth gefnogi unigolion yn y gweithle.

Cipolwg

  3 Awr

  Dysgu Ar-lein

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer unigolion y tu mewn a’r tu allan i’r gweithle sydd eisiau deall mwy am iechyd meddwl a’r camau i gefnogi rhywun sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl neu eu hunain.

Gofynion Mynediad

Amherthnasol

Dilyniant

Yn dilyn cwblhau’r cwrs hwn, gall dysgwyr gwblhau’r cwrs Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i Reolwyr ar-lein, y Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl neu’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Oruchwylwyr.

Cost

£10

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.