Ardystiad Microsoft Office Specialist (MOS) yw cymhwyster cyfrifiadurol enwocaf y byd ar gyfer profi sgiliau a galluoedd unigolyn yn rhaglenni Microsoft Office. Gall ennill ardystiad MOS helpu unigolion i gynyddu eu cynhyrchiant a'u gwerth trwy fod â gwell gwybodaeth am offer busnes hanfodol heddiw o fewn y pecyn Microsoft Office. Ar ôl ennill ardystiad MOS, mae dysgwyr yn cael mynediad ar unwaith i Dystysgrif a Thrawsgrifiad Digidol, yn ogystal â logo MOS i’w roi ar eu CVs a’u bathodynnau digidol.
Mae'r pynciau a drafodir yn y cwrs hwn yn cynnwys addasu gosodiadau Outlook, ffurfweddu gosodiadau post, perfformio gweithrediadau chwilio, argraffu a chadw gwybodaeth a chreu negeseuon. Mae pynciau a gwmpesir yn y cwrs hwn yn cynnwys mewnosod cynnwys negeseuon, trefnu a rheoli negeseuon, creu a rheoli calendrau, creu apwyntiadau, cyfarfodydd a digwyddiadau a threfnu a rheoli apwyntiadau, cyfarfodydd a digwyddiadau.
Bydd dysgwyr sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn yn cael profiad uniongyrchol o ddefnyddio meddalwedd Microsoft Outlook. Maen nhw’n arddangos i gyflogwyr eu bod yn gallu defnyddio'r meddalwedd ar safon uchel yn y diwydiant ac yn gallu dangos y defnydd o brif nodweddion Microsoft Outlook ac yn gallu cwblhau tasgau ar eu pen eu hunain.
Cipolwg
26 Awr
Dysgu Ar-lein
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am wneud eu hunain yn fwy amlwg yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni heddiw a chynyddu'r cyfleoedd gwaith y gallant ymgeisio amdanynt. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer staff o fewn sefydliad sydd am gynyddu eu cynhyrchiant a'u gwerth i'r busnes.
Gofynion Mynediad
Mae'r cwrs hwn ar gyfer dechreuwyr llwyr felly nid oes unrhyw ofynion mynediad.
Dilyniant
Mae hyfforddiant Microsoft Office Specialist a thystysgrif gwblhau yn cael eu parchu’n fawr mewn llawer o ddiwydiannau ac mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr ledled y byd. Gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill ar ôl iddynt ennill tystysgrif gwblhau ar gyfer y cwrs hwn.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.