Ardystiad Microsoft Office Specialist (MOS) yw cymhwyster cyfrifiadurol enwocaf y byd ar gyfer profi sgiliau a galluoedd unigolyn yn rhaglenni Microsoft Office. Gall ennill ardystiad MOS helpu unigolion i gynyddu eu cynhyrchiant a'u gwerth trwy fod â gwell gwybodaeth am offer busnes hanfodol heddiw o fewn y pecyn Microsoft Office. Ar ôl ennill ardystiad MOS, mae dysgwyr yn cael mynediad ar unwaith i Dystysgrif a Thrawsgrifiad Digidol, yn ogystal â logo MOS i’w roi ar eu CVs a’u bathodynnau digidol.
Mae’r pynciau a gwmpesir yn y cwrs hwn yn cynnwys rheoli strwythur cronfa ddata, rheoli perthnasoedd tablau ac allweddi ac argraffu ac allgludo data. Cwmpesir pynciau eraill hefyd gan gynnwys creu a rheoli tablau, creu a rhedeg ymholiadau, ffurfweddu a fformatio ffurflenni a rheolaethau a ffurfweddu a fformatio adroddiadau.
Bydd dysgwyr sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn yn cael profiad uniongyrchol o ddefnyddio meddalwedd Microsoft Access. Maen nhw’n arddangos i gyflogwyr eu bod yn gallu defnyddio'r meddalwedd ar safon uchel yn y diwydiant ac yn gallu dangos y defnydd o nodweddion arbenigol Microsoft Access ac yn gallu cwblhau tasgau ar eu pen eu hunain.
Cipolwg
22 Awr
Dysgu Ar-lein
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am wneud eu hunain yn fwy amlwg yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni heddiw a chynyddu'r cyfleoedd gwaith y gallant ymgeisio amdanynt. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer staff o fewn sefydliad sydd am gynyddu eu cynhyrchiant a'u gwerth i'r busnes.
Gofynion Mynediad
Argymhellir bod y dysgwr wedi cwblhau ardystiad Microsoft Office Specialist Access cyn rhoi cynnig ar yr ardystiad Expert.
Dilyniant
Mae hyfforddiant Microsoft Office Specialist a thystysgrif gwblhau yn cael eu parchu’n fawr mewn llawer o ddiwydiannau ac mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr ledled y byd. Gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill ar ôl iddynt ennill tystysgrif gwblhau ar gyfer y cwrs hwn.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.