Skip to main content

DMI Diploma Proffesiynol mewn Marchnata Digidol

React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae’r cwrs marchnata digidol cynhwysfawr hwn yn cael ei gyflwyno ar-lein a bydd yn dysgu i unigolion y sgiliau marchnata digidol hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y gweithle modern. Drwy gydol y cwrs hyfforddi hwn, bydd dysgwyr yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i allu gweithio'n effeithiol a siarad ag awdurdod yn y sector ffyniannus hwn. Byddant yn dod yn farchnatwyr digidol medrus iawn, a fydd yn gallu adeiladu strategaethau marchnata digidol o'r gwaelod i fyny.

Cwmpesir gwahanol bynciau gan gynnwys:
● Google Ads
● Marchnata trwy’r Cyfryngau Cymdeithasol
● Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO)
● Talu Fesul Clic (PPC)
● Google Analytics
● Marchnata Symudol
● Marchnata E-bost

Mae’r cwrs marchnata digidol hwn yn dangos i ddysgwyr bopeth sydd angen iddynt ei wybod am farchnata digidol i ychwanegu gwerth at unrhyw fusnes. Mae'r maes llafur wedi'i ddatblygu'n ofalus ac yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd i adlewyrchu safonau cyfredol.

Cipolwg

  Mynediad am 6 Mis

  Dysgu Ar-lein

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Cynlluniwyd y cwrs hwn i weddu i ystod eang o unigolion gan gynnwys marchnatwyr traddodiadol sydd eisiau diweddaru eu sgiliau a marchnatwyr sy'n gweithio mewn rolau rheoli ac uwch reoli. Unigolion sydd wedi graddio'n ddiweddar ac sydd am gael llwyddiant mewn rôl marchnata digidol ac entrepreneuriaid a pherchnogion busnesau bach.

Gofynion Mynediad

Wrth ystyried cwrs ar-lein mewn marchnata digidol, mae'n bwysig i'r dysgwr ystyried ei gyrchnodau a'i uchelgeisiau cyn gwario arian. Dyma’r cwrs iawn os yw’r dysgwr yn adnabod ei hun yn unrhyw un o’r rhain:

Dechreuwr llwyr, yn chwilio am ei swydd gyntaf neu'n edrych i newid gyrfa. Bydd y cwrs hwn yn ddefnyddiol i ddysgwyr oherwydd nid yw'n rhagdybio unrhyw wybodaeth flaenorol - mae'r modiwl cyntaf yn dysgu popeth i unigolion am y cysyniadau mewn marchnata digidol ac yn gweithredu fel rhagarweiniad, tra bod y 9 modiwl arall yn mynd i fanylder ar gyfer gwahanol feysydd. Ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd dysgwyr yn amryddawn ac yn barod i ychwanegu gwerth at unrhyw fusnes.

Eisoes yn gweithio mewn marchnata digidol, ond yn canolbwyntio ar un maes penodol. Efallai mai swydd gyntaf unigolyn oedd rhedeg y cyfryngau cymdeithasol i gwmni nad oedd yn gwneud unrhyw beth, ac maen nhw wedi datblygu o hynny i fod yn rheolwr cyfryngau cymdeithasol, ond nawr hoffen nhw osod y sylfeini ar gyfer gyrfa ehangach mewn marchnata digidol ac ehangu eu gwybodaeth a’u sgiliau.

Arweinydd tîm/rheolwr neu berchennog mewn busnes lleol neu Fusnes Bach a Chanolig. Unigolion sy’n arbenigo mewn gweithio gyda phobl ond weithiau mae'r bobl hynny'n delio â phynciau cymhleth fel PPC, SEO neu Farchnata E-bost. Maen nhw’n edrych i gael trosolwg o'r holl ddisgyblaethau marchnata digidol i reoli eu staff yn well yn ogystal â deall ble mae bylchau yn eu gweithgareddau.

Dilyniant

Mae amrywiaeth o swyddi Marchnata Digidol y gall dysgwyr wneud cais amdanynt gyda chymhwyster Marchnata Digidol. Mae swyddi nodweddiadol yn cynnwys:
● Swyddog Gweithredol SEO
● Arbenigwr yn y Cyfryngau Cymdeithasol
● Swyddog Gweithredol Marchnata Digidol
● Marchnata Cynnwys
● Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol
● Rheolwr Marchnata Digidol

Cost

React ar gael i unigolion cymwys er mwyn ariannu'r cwrs hwn. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.