Mae Gwybodeg Iechyd yn un o'r meysydd sy'n tyfu gyflymaf yn y sector iechyd. Mae'n chwarae rhan allweddol wrth gasglu, storio, trefnu ac yn bwysicaf oll dadansoddi data er budd cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Ymdrinnir â phynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys storio ac adalw gwybodaeth, gwybodaeth ymchwil, trefnu ac adrodd ar ddata a hanfodion gwybodeg iechyd. Mae pob modiwl yn cynnwys adnodd dysgu rhyngweithiol ac aseiniad swyddogol.
Mae cymorth ychwanegol ar gael i’r rheiny sy’n dymuno cwblhau dysgu ychwanegol er mwyn cefnogi dilyniant gyrfa ac mae’r rhain yn cynnwys ar-lein neu wyneb yn wyneb pan fyddant ar gael. Cyrsiau ar bynciau megis Cyflwyniadau, Ffurflenni Cais, Ysgrifennu CV, Paratoi ar gyfer Cyfweliadau, Mathemateg, Saesneg, Cymraeg a llawer mwy.
Cipolwg
Chwe Mis
Dysgu Ar-lein
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cymhwyster hwn yn berffaith ar gyfer y rheiny sydd am ddatblygu gyrfa mewn rôl sy’n cefnogi data meddygol neu sydd newydd gychwyn ar rôl newydd mewn maes o’r fath.
Gofynion Mynediad
Does dim gofynion mynediad. Serch hynny, mae’n rhaid eich bod yn gweithio yn y sector iechyd ac yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig yn Gymraeg neu Saesneg - fodd bynnag, nid ydym yn mynnu eich bod wedi cwblhau Sgil Hanfodol neu TGAU mewn Cymraeg neu Saesneg cyn cofrestru.
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr symud ymlaen i gwrs Diploma Lefel 3 mewn Gwybodeg Iechyd.
Cost
Ariennir y cymhwyster hwn yn llawn ar gyfer y rheiny sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.