Mae Gwybodeg Iechyd yn un o'r meysydd sy'n tyfu gyflymaf yn y sector iechyd. Mae'n chwarae rhan allweddol wrth gasglu, storio, trefnu ac yn bwysicaf oll dadansoddi data er budd cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Ymdrinnir â phynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys hyrwyddo arfer da wrth drin gwybodaeth mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, rheoli eich perfformiad eich hun mewn amgylchedd busnes, nodi gofynion gwybodaeth mewn cyd-destun iechyd, rheoli gwybodeg iechyd mewn lleoliadau gofal iechyd, egwyddorion rheoli gwybodaeth a chynhyrchu dogfennau a sgiliau cyfathrebu ar gyfer gweithio yn y sector iechyd. Mae nifer o unedau dewisol i chi ddewis o’u plith hefyd.
Cipolwg
Hyd at ddwy flynedd gan ddibynnu pryd mae'r dysgwr yn cofrestru
Dysgu Ar-lein
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cymhwyster hwn yn berffaith ar gyfer y rheiny sydd â rolau sy’n ymwneud â thrin a rheoli data a gwybodaeth electronig ac ar bapur, gan ddefnyddio TG a systemau llaw. Gallai hyn gynnwys rheoli cofnodion cleifion o ddydd i ddydd, dilysu a chodio data a dadansoddi, adrodd a defnyddio data i gefnogi ansawdd y wybodaeth.
Gofynion Mynediad
Does dim gofynion mynediad. Serch hynny, os nad ydych wedi cwblhau 5 TGAU ar Raddau C-A* yn llwyddiannus rydym yn argymell eich bod yn cwblhau’r Dyfarniad Lefel 2 cyn cofrestru ar y cymhwyster Lefel 3 hwn.
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr symud ymlaen i gwrs Tystysgrif Lefel 4 mewn Gwybodeg Iechyd.
Cost
Ariennir y cymhwyster hwn yn llawn ar gyfer y rheiny sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.