Tystysgrif Lefel 4 mewn Gwybodeg Iechyd
Ariennir y cymhwyster hwn yn llawn ar gyfer y rheiny sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru.
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae Gwybodeg Iechyd yn un o'r meysydd sy'n tyfu gyflymaf yn y sector iechyd. Mae'n chwarae rhan allweddol wrth gasglu, storio, trefnu ac yn bwysicaf oll dadansoddi data er budd cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Ymdrinnir â phynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys dadansoddi ac adrodd ar ddata a gwybodaeth sy'n ymwneud ag iechyd a hyrwyddo arfer da wrth drin gwybodaeth mewn lleoliadau iechyd. Gyda modiwlau dewisol amrywiol sy’n cynnwys deall dwyieithrwydd yn y gwaith, cynllunio a rheoli prosiect, dadansoddiad ystadegol o setiau data, profi diogelwch systemau gwybodaeth, meddalwedd rheoli prosiectau, rheoli ansawdd cynnyrch a gwasanaethau digidol a llawer mwy.

Cipolwg
Hyd at ddwy flynedd gan ddibynnu pryd mae'r dysgwr yn cofrestru
Dysgu Ar-lein
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Ar hyn o bryd mae'r cymhwyster wedi'i alinio ar gyfer y rolau canlynol, fodd bynnag mae hyn yn cael ei adolygu ac efallai bydd modiwlau eraill yn cael eu hychwanegu er mwyn cynnwys llwybrau ychwanegol i'r rheiny sy'n dymuno symud ymlaen o Lefel 3. Mae’r pedwar llwybr gyrfa a fyddai’n elwa o’r cymhwyster hwn ar hyn o bryd yn cynnwys:
Technegydd Cymorth TGCh
Cynorthwyo i ddarparu cymorth TGCh. Mae’n cynnwys datrys galwadau am gymorth TG, perfformio gosodiadau, ffurfweddiadau, adleoli a dadgomisiynu caledwedd a meddalwedd cyfrifiadurol; canfod namau a chywiro problemau; hyrwyddo arfer da wrth ddefnyddio caledwedd a meddalwedd a diogelwch TG.
Dadansoddwr Prawf TGCh
Mae’n datblygu cynlluniau profi, sgriptiau, ac ati; Profi Systemau ac Integreiddiad (SIT), Profi Derbyniad Gweithredol (OAT), Profi Derbynioldeb i’r Defnyddiwr (UAT), Profi Atchweliad a Pherfformiad. Gallai hefyd gynnwys: profion ymarferol i feithrin arbenigedd rhaglen a sicrhau bod terfynau amser prosiect yn cael eu bodloni.
Dadansoddwr Gwybodaeth
Mae’n darparu cymorth dadansoddol i hwyluso gwneud penderfyniadau clinigol, datblygu gwasanaethau a rheoli perfformiad. Hwyluso ansawdd data; cyfathrebu'n effeithiol â budd-ddeiliaid; rhoi cyngor a chymorth a allai hefyd gynnwys darparu addysg a hyfforddiant i eraill.
Uwch Arbenigwr TG
Mae’n datblygu, cynnal a chefnogi systemau perthnasol ar gyfer Canolfan Gweithrediadau Cymorth Rhwydweithiau Mewnol yn eu maes eu hunain ac yn unol â manylebau a gofynion gweithredol. Mae tîm y Ganolfan Gweithrediadau Cymorth Rhwydweithiau Mewnol yn gyfrifol am ddarparu, monitro, adrodd ar ddata a’i gasglu.
Gofynion Mynediad
Dylai fod gan ddysgwyr gymhwyster lefel 3 perthnasol i gymryd rhan yn y cwrs hwn. Mae angen bod yn 18 oed o leiaf.
Dilyniant
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa o fewn gwybodeg iechyd, un o'r meysydd sy'n tyfu gyflymaf ym maes iechyd.
Cost
Ariennir y cymhwyster hwn yn llawn ar gyfer y rheiny sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru.
