Mae mwy a mwy o fusnesau’n cydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl yn eu gweithle, a’r hyn y gellir ei wneud i gefnogi cydweithwyr yn effeithiol.
Cwmpesir gwahanol bynciau gan gynnwys:
Egwyddorion iechyd meddwl
Adnabod salwch meddwl yn yr hunan ac yn eraill
Cefnogi lles meddyliol yn y gweithle
Deall sut i gymryd rhan mewn sgyrsiau am iechyd meddwl yn y gweithle
Sut i gefnogi gweithwyr cyflogedig mewn perthynas â’u hiechyd meddwl
Ffyrdd i reoli eich lles eich hun
Cynlluniwyd y Dyfarniad Lefel 3 mewn Deall Iechyd Meddwl yn y Gweithle i Reolwyr (RQF) i gefnogi rôl yn y gweithle a rhoi gwybodaeth i ddysgwyr am ddeall iechyd meddwl yn y gweithle, sut y gall salwch meddwl effeithio ar weithwyr a sut y gall rheolwyr gefnogi gweithwyr.
Cipolwg
10 Awr
Wyneb yn Wyneb
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Yn addas ar gyfer y rheiny sydd eisoes mewn cyflogaeth neu sy'n paratoi i gamu i fyd gwaith, cymhwyster gwybodaeth yn unig yw hwn sy'n cwmpasu'r wybodaeth a’r ddealltwriaeth greiddiol bydd eu hangen ar reolwyr ar gyfer cefnogi cydweithwyr a hybu diwylliant o les.
Gofynion Mynediad
Cymeradwywyd y cymhwyster hwn ar gyfer ei gyflwyno i ddysgwyr 16 oed a hŷn. Cynghorir fod gan ddysgwyr o leiaf lefel un mewn llythrennedd a/neu rifedd neu gyfwerth.
Dilyniant
Ar gwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, efallai y bydd dysgwyr yn dymuno parhau â’u datblygiad trwy ymgymryd â chwrs arall o’n hystod eang o gyrsiau.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.