Skip to main content

Hyfforddiant Goruchwylio Ar-lein

Cost y cwrs: £15

Disgrifiad o'r Rhaglen

Bydd goruchwyliwr tra hyfforddedig ac effeithiol yn sicrhau bod arholiad yn rhedeg yn esmwyth ac yn ôl y cyfarwyddiadau gofynnol ar gyfer cynnal arholiadau. Mae’r cwrs ar-lein hwn, sy’n cael ei ardystio gan Goleg Sir Gâr, wedi’i anelu at y rheiny sy’n goruchwylio arholiadau ac y mae’n ofynnol iddynt gwblhau DPP sy’n rhoi manylion diweddaraf safonau a rheoliadau’r Cyd-Gyngor Cymwysterau (JCQ).

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd dysgwyr yn gallu:

  • Gwybod beth i wneud cyn, yn ystod, ac ar ôl arholiad
  • Deall addasiadau a all fod angen eu gwneud ar gyfer myfyrwyr ag anableddau ac anawsterau dysgu
  • Deall yr hyn a olygir gan y term ‘camymddwyn’ a sut i weithredu os ydych yn gweld camymddwyn neu yn ei amau.

Cipolwg

  1.5 Awr

  Dysgu Ar-lein

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae’r cwrs ar-lein hwn, sy’n cael ei ardystio gan Goleg Sir Gâr, wedi’i anelu at y rheiny sy’n goruchwylio arholiadau ac y mae’n ofynnol iddynt gwblhau DPP sy’n rhoi manylion diweddaraf safonau a rheoliadau’r Cyd-Gyngor Cymwysterau (JCQ).

Gofynion Mynediad

Mae angen i ddysgwyr fod yn gweithio ar hyn o bryd o fewn y sector addysg neu hyfforddiant i ymgymryd â’r cwrs Hyfforddiant Goruchwylio Ar-lein hwn.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gan ddysgwyr yr hyfforddiant angenrheidiol i ymgymryd â rôl goruchwyliwr.

Cost

£15

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.