Skip to main content

Cod Ymddygiad Ym Yfyriwr

Mae ein Cod Ymddygiad yn seiliedig ar 3 egwyddor.
Rydym am i'n holl fyfyrwyr fod yn:

BAROD
PARCHUS
DIOGEL

BYDDWCH BAROD

  • Byddwch yn bresennol ym mhob gwers
  • Byddwch yn brydlon i bob gwers
  • Cymerwch ran lawn yn eich cwrs gan gynnwys tiwtorialau, cyfarwyddyd gyrfaol, ymweliadau, profiad gwaith ac unrhyw gymorth ychwanegol a drefnir ar eich cyfer
  • Dewch â'r offer cywir ar gyfer pob gwers
  • Anelwch at ragoriaeth ym mhopeth a wnewch
  • Cwblhewch eich holl waith erbyn y terfynau amser cytunedig
  • Gwnewch gynnydd yn erbyn unrhyw dargedau a gytunwyd ac a osodwyd
  • Cydweithiwch â myfyrwyr eraill i gyflawni eich cyrchnodau
  • Byddwch yn bresennol ym mhob arholiad/asesiad yr ydych wedi eich cofrestru ar eu cyfer
  • Rhowch wybod am unrhyw absenoldeb trwy gysylltu â swyddfa eich campws cyn 10am ar bob dydd yr ydych yn absennol
  • Defnyddiwch y cyfleusterau TG fel yr amlinellir yn y Polisi Defnydd TG Derbyniol yn unig
  • Diąodd bob ffôn symudol mewn ardaloedd dysgu [h.y. ystafelloedd dosbarth neu ganolfannau adnoddau dysgu] oni bai eich bod wedi cael caniatâd y tiwtor a defnyddio eich ffôn symudol mewn ffordd briodol yn unig yn ardaloedd cyffredin y myfyrwyr
  • Cadwch at y rheolau ymddygiad ar gludiant y coleg, ymweliadau addysgol ac mewn ardaloedd cyffedin fell lyfrgelloedd a ffreuturau

BYDDWCH BARCHUS

  • Dangoswch barch tuag at yr holl staff, myfyrwyr a'r gymunedleol wrth i chi ymwneud a siarad â nhw
  • Parchwch ymrwymiad y coleg i gydraddoldeb a pheidiwch â gwahaniaethu yn erbyn grwpiau neu unigolion
  • Peidiwch â defnyddio iaith dramgwyddus
  • Ysmygwch a fepiwch yn y cysgodfannau ysmygu/fêpio dynodedig yn unig.
  • Parchwch amgylchedd y coleg trwy beidio â gollwng sbwriel
  • Peidiwch â difrodi dodrefn neu adeiladau'r coleg
  • Dylech osgoi gwisgo dillad â sloganau neu logos tramgwyddus

BYDDWCHDDIOGEL

  • Peidiwch â chymryd rhan mewn unrhyw weithred neu fygythiad o drais, hiliaeth, bwlio, brawychu neu gam-drin geiriol
  • Peidiwch â rhoi eich hun neu eraill mewn perygl o gael niwed
  • Peidiwch byth â dod â chyffuriau neu alcohol i dir ac adeiladau'r coleg neu fod dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol
  • Defnyddiwch y rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel
  • Cadwch eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr (ID) gyda chi bob amser pan fyddwch yn y coleg

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.