Theatr yr Efail.

Llunio doniau newydd

Mae’r theatr yn Yr Efail yn gyfleuster proffesiynol hyblyg gyda’r cyfarpar sain, fideo a goleuadau mwyaf diweddar. Mae yno seddau codadwy ar gyfer 120 ond gellir ehangu’r rhain a’u cyflunio mewn amrywiaeth o osodiadau yn cynnwys ar gyfer cynhadledd, cabaret, “llwyfan canolog” a llwyfan traws.

Gyda dwy ystafell newid fodern wedi’u cyfarparu’n llawn a bae golygfeydd mawr, caiff y gofod tra amlbwrpas hwn ei ddefnyddio gan ein holl gyrsiau Diwydiannau Creadigol ar gyfer perfformiadau, addysgu a sesiynau gweithdy. Hefyd mae’r cyfleuster hwn yno i gael ei ddefnyddio gan grwpiau cymunedol lleol.

Am wybodaeth bellach am y cyfleuster hwn, cysylltwch â:

Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. Tel: 01554 748110E-bost – Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.