Mae Canolfan Fodurol Coleg Sir Gâr wedi ei lleoli ar Gampws Pibwrlwyd yng Nghaerfyrddin.
Wedi’i hadeiladu i gynnwys cyfleusterau helaeth, mae’r ganolfan yn gyfleuster hyfforddi pwrpasol, modern gyda’r holl gyfarpar angenrheidiol.
Mae cyfleusterau'r ganolfan yn cynnwys labordai diagnostig y gellir gyrru i mewn iddynt, gweithdai cerbydau ysgafn chwe-bae a chyfleuster MOT awtomataidd llawn. Yn ogystal mae’n cynnwys gweithdai cerbydau trwm, gweithdy chwaraeon modur gyda ffordd dreigl a swît o ystafelloedd dosbarth TG.
Mae blynyddoedd o brofiad yn y diwydiant gan y tîm modurol, ac maent yn cyflwyno cyrsiau megis cymwysterau Profwr MOT a Rheolwr MOT.
Rhaglen arloesol a gyflwynir yn y ganolfan yw ei Hacademi Chwaraeon Modur ar gyfer plant 13 i 15 oed. Mae profiad yr academi yn cyflwyno pobl ifanc i'r ystod amrywiol o feysydd sydd ar gael o fewn y diwydiant chwaraeon modur, megis ralio ac autograss. Mae’r rhaglen 10 wythnos, a ategir gan ymweliadau â’r diwydiant, yn cyflwyno sgiliau o ddarllen a chreu nodiadau cyflymder rali i osod siasi a thechnoleg teiars.
Graig Campus Sandy Road Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Coleg Sir Gar is a company limited by guarantee registered in England and Wales No. 08539630 and is a registered charity No. 1152522. The registered office is at The Graig Campus, Sandy Road, Pwll, Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN