Skip to main content

Clwb Ffilm.

Mae Clwb Ffilm clodfawr Coleg Sir Gâr yn cynnig cyfle i fyfyrwyr wylio ffilmiau bob wythnos.

Mae’r sgriniadau rhad ac am ddim hyn ar Gampws y Graig yn dangos goreuon y byd ffilmiau - o sinema gyfoes neilltuol i glasuron hanesyddol: perlau sinema’r byd i brif ffilmiau a wnaed yma yng Nghymru.

Mae’r ffilmiau hyn ar gael i bob myfyriwr ond yn bennaf ein myfyrwyr Cyfryngau Creadigol o lefelau 1 i 3 sy’n eu mynychu.

Ar ôl pob sgriniad, mae’r myfyrwyr yn trafod ac adolygu’r ffilmiau, gan ddatblygu eu diddordeb brwd a’u gwybodaeth am y gwaith. Mae gan y Clwb gysylltiadau gwych gydag Into Film sydd wedi gweld aelodau yn ymweld â stiwdios ffilm, mynychu dosbarthiadau meistr a digwyddiadau arbennig gyda thalent fel Amma Asante, Rhys Ifans a Jonathan Pryce.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.