ACE yw Rhaglen bwrpasol Mwy Galluog a Thalentog CSG ar gyfer Myfyrwyr Safon Uwch, sy’n cydnabod a datblygu Diwylliant Academaidd Rhagorol.
Cewch eich gwahodd i ddod ar y rhaglen gyda chofnod academaidd a thalentog profedig: seiliedig ar dystiolaeth o broffil TGAU rhagorol o naill ai 6A* neu 20 pwynt SEREN o’ch 8 TGAU academaidd uchaf. Mae uchelgais bersonol i gael profiad uwch-gwricwlaidd, bod yn rhan o’r rhwydwaith SEREN a gwneud ceisiadau cystadleuol i brifysgolion a chyrsiau mwyaf clodfawr y DU, yn hanfodol.
Byddwch yn ffurfio’r grŵp tiwtorial ACE, dan arweiniad tiwtor ACE arbenigol neilltuedig sy’n cyflwyno rhaglen deilwredig wedi’i chynllunio i’ch cefnogi wrth wireddu a chyflawni eich potensial.
Mewn pedair sesiwn a amserlennir bob wythnos, ym mlwyddyn 1, byddwch yn dilyn y rhaglen Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd (PSHE) genedlaethol; cwblhau Cymhwyster Prosiect Estynedig CBAC; a, byddwch yn cael eich cefnogi yn eich datblygiad i ddod yn oedolyn ifanc uchelgeisiol, gwydn, sy’n gyflawnydd uchel.
Cyflwynir y sesiynau gan eich tiwtor ACE, siaradwyr gwadd detholedig, a chyn-fyfyrwyr a fydd yn eich tywys drwy’r ‘profiadau prifysgol’ mewn meysydd megis, sut i ymgeisio’n llwyddiannus ar gyfer ysgolion haf yn Yale, Harvard neu golegau Rhydychen a Chaergrawnt; profiad gwaith; gweithgareddau uwch-gwricwlaidd a SEREN. Trwy gydol y rhaglen ACE, byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol gradd uchel megis methodolegau ymchwil; meddwl yn feirniadol ac adeiladu hyder. Ym mlynyddoedd 1 a 2, byddwch yn cael sesiynau’n canolbwyntio ar baratoi ar gyfer a gwneud ceisiadau i brifysgolion a’ch cefnogi i baratoi’r cais UCAS gorau posibl ar gyfer eich prifysgol a chwrs dewisol.