Defnyddir cyfrifiaduron yn helaeth ym mhob agwedd ar fusnes, diwydiant, llywodraeth, addysg, hamdden a'r cartref. Yn yr oes gynyddol dechnolegol hon, mae astudiaeth o gyfrifiadureg, ac yn enwedig sut mae cyfrifiaduron yn cael eu defnyddio i ddatrys amrywiaeth o broblemau, yn hanfodol i les y wlad yn y dyfodol. Mae'r gallu i feddwl yn rhesymegol a gallu dylunio a chynllunio'n ofalus yn sgil gwerthfawr. Mae'r cwrs hwn yn rhoi pwyslais mawr ar raglennu cyfrifiadurol gan ddefnyddio ieithoedd gweledol modern.
Mae diddordeb mawr a brwdfrydedd dros fod eisiau ysgrifennu eich rhaglenni pwrpasol eich hun yn hanfodol a bydd diddordeb mewn caledwedd a meddalwedd yn fantais gan fod y cynnwys theori yn ymdrin â sawl agwedd ar y pynciau hyn.
Bydd disgwyl fod gennych
Mae'r cwrs hwn yn rhoi’r blociau adeiladu hanfodol o feddwl yn rhesymegol a chymhwysol. Bydd yn caniatáu trosglwyddo'r sgiliau hyn i bob maes. Byddwch yn gallu adnabod problem, ei dadansoddi a darparu datrysiad.
Gyda phwyslais enfawr yn cael ei roi ar Gyfrifiadureg, gall y maes hwn ddarparu llawer o gyfleoedd cyflogaeth i chi mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau.
Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis astudio Cyfrifiadureg ymhellach ar lefel Prifysgol, tra bod eraill yn ei ddefnyddio fel sylfaen resymegol gadarn i astudio pynciau eraill. Mae myfyrwyr wedi sicrhau lleoedd i astudio’r pwnc hwn yn nifer o Brifysgolion nodedig y Grŵp Russell.
Rhennir y cwrs hwn yn 5 uned. Mae dwy yn cael eu gwneud ar lefel UG. Mae tair yn cael eu gwneud ar lefel U2.
Caiff unedau UG eu hasesu…
UNED 1 - arholiad ysgrifenedig - 2 awr - 25% o’r cymhwyster
UNED 2 - arholiad ar-sgrîn - 2 awr - 15% o’r cymhwyster
Caiff unedau U2 eu hasesu…
UNED 3 - arholiad ysgrifenedig - 2 awr - 20% o’r cymhwyster
UNED 4 - arholiad ysgrifenedig - 2 awr - 20% o’r cymhwyster
UNED 5 - prosiect heb arholiad - 20% o’r cymhwyster
Gellir dilyn Cyfrifiadureg ar Lefel UG heb fod wedi astudio'r pwnc cyn hynny. Fel rheol, mae’n ofynnol i fyfyrwyr 16 - 19 oed fod ag o leiaf 6 TGAU gradd A* - C; caniateir dysgwyr hyn ar y cwrs fel y mynno’r adran.
Gradd B mewn TGAU Mathemateg (Haen Uwch);
Gradd C mewn TGAU Saesneg;
Mae TGAU Cyfrifiadureg yn fanteisiol, ond nid yw’n hanfodol.
Cyfrifiadur cartref sy'n gallu rhedeg Windows 10 a Microsoft Visual Studio 2019
Gellir gwneud y rhan fwyaf o waith wedi'i deipio gan ddefnyddio Google Docs a Google Slides, felly nid oes angen prynu meddalwedd ar gyfer hyn.
Gall fod gofyniad yn UNED 5 i ddefnyddio Microsoft Access, felly gall cost hyn fod yn rhywbeth i'w ystyried