Cymhwyster lefel dechnegol yw’r cwrs hwn sy'n anelu at ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau technegol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa fel therapydd tylino chwaraeon.
Mae'n gwrs poblogaidd iawn ac mae'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddarparu therapi tylino chwaraeon i ystod o gleientiaid sydd â meinwe gamweithredol, heb anafiadau acíwt/ôl acíwt neu gyflyrau patholegol sylfaenol.
Trwy gydol y cymhwyster, byddwch yn datblygu technegau cynllunio ac asesu triniaeth yn ogystal â’ch sgiliau technegol. Bydd cyfle hefyd i ddatblygu eich sgiliau ymchwil a gwerthuso wrth astudio.
Cipolwg
Rhan-amser, 34 wythnos, 4 awr yr wythnos, Medi - Mehefin
Blwyddyn
Campws y Graig
Nodweddion y Rhaglen
Mae cynnwys y cymhwyster hwn yn cwmpasu'r holl elfennau gofynnol sydd eu hangen i weithio'n effeithiol ac yn effeithlon fel therapydd tylino chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys anatomeg a ffisioleg, ymarfer proffesiynol, dealltwriaeth o egwyddorion iechyd a ffitrwydd a sut i ddarparu triniaethau tylino chwaraeon. Bydd y therapydd tylino chwaraeon lefel tri yn gallu gweithio'n ddiogel ac yn effeithiol ar feinwe gamweithredol mewn ystod o gyd-destunau, gan gynnwys, cyn digwyddiad, ar ôl digwyddiad, yn ystod digwyddiadau ac at ddibenion cynnal.
Mae’r coleg yn rhedeg salon hyfforddi masnachol sydd ar agor i'r cyhoedd a bydd yn darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi.
Rydym yn ffodus fod gennym gysylltiadau cryf gydag arbenigwyr yn y diwydiant yn lleol a chenedlaethol a chewch eich addysgu gan ein staff profiadol yn y diwydiant.
Yn ogystal, mae gennym siaradwyr ymweliadol o’r diwydiant sydd yn rhoi cyfleoedd cyfoethogi i fyfyrwyr mewn seminarau gweithdy.
Bydd y cwrs yn cychwyn ym mis Medi a bydd yn cymryd blwyddyn i'w gwblhau. Byddwch yn mynychu'r coleg am un noson yr wythnos o 6pm i 9pm.
Cynnwys y Rhaglen
Mae’r cymhwyster yn cynnwys yr unedau gorfodol canlynol:
USP41: Anatomeg a ffisioleg ar gyfer tylino chwaraeon
Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i arwain at gyflogaeth fel therapydd tylino chwaraeon.
Byddwch yn rhan o raglen ffyniannus o weithgareddau a chewch gipolwg ar ragolygon gyrfa yn y diwydiant, trwy deithiau a digwyddiadau.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, fe allech chi symud ymlaen i gwrs lefel uwch fel y dystysgrif lefel pedwar mewn therapi tylino chwaraeon.
Asesu'r Rhaglen
Fel rhan o'r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:
USP41: Arholiad Allanol Anatomeg a Ffisioleg
Asesiadau parhaus
e-bortffolio o dystiolaeth
Aseiniadau ysgrifenedig
Asesiadau Ymarferol
Gofynion y Rhaglen
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad; fodd bynnag mae angen agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil galwedigaethol ac mae’n rhaid i chi fod yn awyddus i weithio gyda’r cyhoedd a meddu ar agwedd broffesiynol.
Costau Ychwanegol
Ffi’r cwrs rhan-amser hwn ar hyn o bryd yw £485.
Cewch fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau ond ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn a gellir trafod hyn yn y cyfweliad.
Graig Campus Sandy Road Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Coleg Sir Gar is a company limited by guarantee registered in England and Wales No. 08539630 and is a registered charity No. 1152522. The registered office is at The Graig Campus, Sandy Road, Pwll, Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN