Bydd Tystysgrif Lefel 2 IQ Active mewn Hyfforddi Campfa yn datblygu gwybodaeth a sgiliau dysgwyr mewn hyfforddi yn y gampfa i'w galluogi i ddilyn gyrfa fel hyfforddwr campfa. Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfuniad o wybodaeth a sgiliau i ragnodi, cynllunio a chyflwyno rhaglenni ymarfer corff diogel ac effeithiol i ystod o gleientiaid.
Mae hwn yn gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant. Bydd cyflawni'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn rhoi mynediad i'r Sefydliad Siartredig Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA) fel aelod cyswllt (ymarfer a ffitrwydd).
Cipolwg
Rhan Amser
4 awr yr wythnos am 16 wythnos
Campws Graig
Nodweddion y Rhaglen
Mae'r cymhwyster yn rhoi cipolwg da i ddysgwyr o'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt, nid yn unig ar gyfer gweithio yn y sector hwn, ond sgiliau cyffredinol, trosglwyddadwy y byddai pob cyflogwr yn eu croesawu. Mae’r dewis o unedau a gynigir ar draws Lefel 2 yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddangos amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Yn ystod y cymhwyster bydd dysgwyr yn cwmpasu'r canlynol:
Gwybodaeth am anatomeg a ffisioleg sy'n berthnasol i hyfforddi campfa.
Egwyddorion ymarfer, ffitrwydd ac iechyd.
Iechyd a diogelwch mewn amgylchedd ffitrwydd.
Gofal cwsmer.
Sgiliau cyfathrebu effeithiol ar gyfer ymgynghoriadau cleientiaid i gefnogi newid cadarnhaol mewn ymddygiad.
Y sgiliau sydd eu hangen i gynllunio a chynnal sesiynau ymarfer yn y gampfa gydag unigolion a grwpiau.
Gofynion cyfreithiol a phroffesiynol ar gyfer hyfforddi ffitrwydd.
Sut i reoli, gwerthuso a gwella eu perfformiad eu hunain.
Cynnwys y Rhaglen
Er mwyn cyflawni'r cymhwyster rhaid i ddysgwyr gwblhau'r pum uned orfodol:
Egwyddorion anatomeg, ffisioleg a ffitrwydd
Proffesiynoldeb a gofal cwsmer ar gyfer hyfforddwyr ffitrwydd
Iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd ffitrwydd
Cynnal ymgynghoriadau cleientiaid i gefnogi newid cadarnhaol mewn ymddygiad
Cynllunio a hyfforddi ymarfer yn y gampfa
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae’r cymhwyster hwn yn darparu dilyniant i:
Diploma Lefel 3 Active IQ mewn Hyfforddiant Personol.
Diploma Lefel 3 Active IQ mewn Atgyfeirio Ymarfer.
Dyfarniad Lefel 3 Active IQ mewn Cynllunio Rhaglenni Ymarfer Cyn-enedigol ac Ôl-enedigol.
Dyfarniad Lefel 3 Active IQ mewn Cynllunio Rhaglenni Ymarfer ar gyfer Oedolion Hŷn.
Dyfarniad Lefel 3 Active IQ mewn Cynllunio Rhaglenni Ymarfer ar gyfer Cleientiaid Anabl.
Cymwysterau Lefel 2 a/neu Lefel 3 cysylltiedig eraill, er enghraifft:
Dyfarniad Lefel 2 Active IQ mewn Hyfforddi Ymarferion Cylchol.
Dyfarniad Lefel 2 Active IQ mewn Hyfforddi Pwysau Tegell (Kettlebells).
Dyfarniad Lefel 2 Active IQ mewn Hyfforddi Hyfforddiant Symudiadau Crog.
Tystysgrif Lefel 2 Active IQ mewn Hyfforddi Ffitrwydd (Ymarfer Grŵp)
Tystysgrif Lefel 2 Active IQ mewn Hybu Iechyd a Lles Cymunedol.
Dyfarniad Lefel 3 Active IQ mewn Maeth ar gyfer Ymarfer ac Iechyd.
Asesu'r Rhaglen
Cewch eich asesu drwy:
Waith Cwrs/Prosiect.
Arholiad Aml-ddewis.
Portffolio o Dystiolaeth.
Arddangosiad/Aseiniad Ymarferol.
Gofynion y Rhaglen
Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf.
Argymhellir peth profiad o ymarferion yn y gampfa, gan gynnwys pwysau rhydd.
Mae'r cwrs yn gofyn am ymdrech gorfforol, ac mae cyfranogiad unigol yn hanfodol; felly, mae angen rhywfaint o ffitrwydd corfforol.
Mae’n cynnwys elfen o gyfathrebu (trafod, cyflwyno, darllen ac ysgrifennu) a dylai dysgwyr feddu ar sgiliau sylfaenol mewn cyfathrebu ar lefel 2.
Graig Campus Sandy Road Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Coleg Sir Gar is a company limited by guarantee registered in England and Wales No. 08539630 and is a registered charity No. 1152522. The registered office is at The Graig Campus, Sandy Road, Pwll, Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN