Mae'r cwrs hwn yn cyfuno disgyblaethau mathemateg a gwyddorau, y gwyddorau cymdeithasol, y sgiliau ysgrifennu a chyflwyno, sy'n ofynnol ar gyfer astudio cyrsiau meddygol mewn prifysgol. Os oes gennych ddiddordeb mewn nyrsio, bydwreigiaeth, gofal geriatrig neu ystod eang o raddau sylfaen meddygol, yna mae hwn yn llwybr rhagorol. Mae'r cwrs llawn amser yn cynnwys tri diwrnod o ddarlithoedd yn y coleg. Hefyd mae gan fyfyrwyr yr opsiwn o ddilyn y cwrs rhan-amser, a all weddu’n well: yn astudio dwy noson yr wythnos, dros ddwy flynedd. Mae'r cwrs yn gofyn am ymrwymiad i fynychu; y gallu a phenderfyniad i fodloni terfynau amser; i gael eich asesu mewn amryw o ffyrdd ar ddyddiadau penodol; ac i astudio’n annibynnol. Bydd yr ystod eang o bynciau hyn a sgiliau pwnc ac astudio cysylltiedig yn eich helpu i fodloni'r terfynau amser a'r safonau yn barod ar gyfer gwneud cais i'r brifysgol a'r cyrsiau uwch er mwyn dod o hyd i lwybr gyrfaol eich breuddwydion.
Disgwylir bod gan bob myfyriwr bresenoldeb dros 92% bob tymor, a gall methu ag ymroi o’ch amser a’ch ymdrech i'r cwrs arwain at ddatgymhwyso o'r Diploma i ddyfarniad llai neu gael eich tynnu'n ôl o'r cwrs. Bydd yn rhaid i chi gytuno a rheoli eich ymrwymiadau oriau gwaith/teuluol o gwmpas y diwrnodau llawn amser/rhan-amser yn y coleg, a gofynnir i chi sut y byddwch chi'n rheoli hyn yn y cyfweliad. I'r myfyrwyr hynny sydd ei angen, mae yna ymgynghorwyr a all helpu gyda cheisiadau am gymorth ariannol neu academaidd.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn yn Llawn Amser / 2 flynedd yn Rhan-amser
Campws Graig / Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Nid yw ennill y Diploma Mynediad yn seiliedig ar lwyddo mewn arholiadau a chaiff y cwrs ei asesu trwy amrywiaeth o aseiniadau, ar ffurf traethodau, cyflwyniadau, profion ac adroddiadau.
Mae'r cwrs yn elwa ar ystod o feysydd pwnc diddorol a gyflwynir gan staff cymwys, cefnogol a brwdfrydig. Yn ogystal â'r rhain, caiff gwersi ar wahân eu trefnu er mwyn adeiladu ar y sgiliau cyfathrebu a rhifedd fel eu bod yn cyrraedd y safon ofynnol ar gyfer cael mynediad i brifysgol.
Darperir cefnogaeth, arweiniad ac adborth rheolaidd mewn tiwtorialau personol er mwyn annog ac ysgogi myfyrwyr nad ydynt efallai mor hyderus ar y dechrau yn y dosbarth. Cyfleoedd gwych i symud ymlaen yn y sector Gofal Iechyd.
Cynnwys y Rhaglen
Mae yna saith pwnc Lefel 3 a asesir yn ffurfiol yn y Diploma: Anatomeg a Ffisioleg; Microbioleg; Cemeg; Prosiect Estynedig, Cymdeithaseg a Seicoleg. Bydd pob un yn cael ei brofi mewn cyfuniad o ffyrdd: profion ysgrifenedig wedi’u hamseru; profion ar-lein; asesiadau llyfr agored; posteri academaidd; cyflwyniadau a thraethodau.
Yn ychwanegol, mae yna dair uned graidd a fydd yn adeiladu eich sgiliau yn barod ar gyfer astudio academaidd a gwneud cais i’r brifysgol. Mathemateg, cyfathrebu a sgiliau astudio yw’r rhain.
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae myfyrwyr Mynediad llwyddiannus o Goleg Sir Gâr wedi mynd ymlaen i astudio cyrsiau mewn nifer o brifysgolion gan gynnwys hyfforddiant parafeddyg, graddau nyrsio, nyrsio mamolaeth, nyrsio pediatrig a nyrsio geriatrig. Yn y pum mlynedd ddiwethaf, mae nifer o'n dysgwyr wedi cychwyn graddau sylfaen ac wedi symud ymlaen i gyrsiau gwyddoniaeth feddygol llawn.
Asesu'r Rhaglen
Bydd pob un o'r deg pwnc yn cael eu profi mewn cyfuniad o ffyrdd: profion ysgrifenedig wedi’u hamseru; profion ar-lein; asesiadau llyfr agored; posteri academaidd; cyflwyniadau a thraethodau. Bydd amseroedd, ar hyd y flwyddyn, lle mae nifer o aseiniadau/asesiadau i’w cyflwyno ar yr un pryd. Rhoddir estyniadau i derfynau amser mewn amgylchiadau eithriadol yn unig a chânt eu cymeradwyo gan y bwrdd arholi, Agored.
Gofynion y Rhaglen
Graddau C mewn TGAU Saesneg Iaith, mathemateg a gwyddorau (mae bioleg yn arbennig o bwysig).
Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 19cyn dechrau'r cwrs hwn ym mis Medi. Mae agwedd aeddfed, ymrwymedig, ymroddedig a gwydn yn hanfodol gan ei bod yn anodd cyfuno astudio, bywyd teuluol ac ymrwymiadau gwaith.
Mae pob ymgeisydd yn cael cyfweliad ffurfiol a phrofion llythrennedd a rhifedd sylfaenol. Disgwylir bod gan bob myfyriwr bresenoldeb sydd o leiaf 92% bob tymor.
Bydd yn rhaid i ymgeiswyr sydd heb y cymwysterau perthnasol, neu gyfwerth, wneud y cwrs SFFS (cyn-Mynediad) a'r pynciau TGAU perthnasol, yn ôl yr angen, i sicrhau eu bod yn gallu symud ymlaen i'r llwybr priodol. Cynigir y cwrs SFFS yn rhan-amser gyda'r nos, neu yn llawn amser dros dri diwrnod ar gampws y Graig
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.