Mynediad i AU: Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae'r cymhwyster Mynediad i Addysg Uwch yn gwrs sydd wedi'i deilwra ar gyfer oedolion sy’n dymuno dychwelyd i addysg. Efallai ei bod yn amser i newid gyrfa neu efallai na chawsoch chi gyfle i fynd i'r brifysgol oherwydd ymrwymiadau teuluol. Os ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn ac yn dymuno symud ymlaen i Addysg Uwch i astudio'r gwyddorau cymdeithasol neu'r dyniaethau, yna dyma'r cwrs i chi.

DS Mae disgwyl lleiafswm o hyd at 300 awr o oriau gwirfoddoli gan ymgeiswyr i Waith Cymdeithasol - gofynnwch am gyngor gan y brifysgol cyn dechrau'r cwrs. Efallai y bydd yn rhaid i chi weithio neu wirfoddoli am flwyddyn mewn gyrfa berthnasol cyn ymuno â'r cwrs er mwyn casglu’r nifer gofynnol o oriau o brofiad.

Cipolwg

  Llawn Amser

  Blwyddyn

  Campws Graig

Nodweddion y Rhaglen

Bydd astudio’r cwrs Mynediad i’r Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn rhoi cipolwg i chi ar ystod amrywiol o bynciau priodol a fydd yn ymgorffori’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n ofynnol i lwyddo mewn addysg uwch. Er mwyn llwyddo ar y cwrs Mynediad hwn, mae angen i chi fod yn llawn cymhelliant, yn frwdfrydig, yn gallu rheoli amser yn effeithiol a bod yn barod i astudio.

Cynnwys y Rhaglen

Mae gan y cwrs hwn ddewislen amrywiol o bynciau Lefel 3 (lefel Safon Uwch) megis Saesneg, Hanes, y Gyfraith, Seicoleg, Cymdeithaseg, Prosiect Estynedig. Dysgir y rhain ynghyd â’r unedau craidd Mathemateg a Sgiliau Cyfathrebu a Sgiliau Astudio i'ch helpu i baratoi ar gyfer rheoli'r Diploma, gwneud cais i UCAS/addysg uwch tra'n datblygu'r sgiliau angenrheidiol i lwyddo ar gwrs Mynediad.

Dilyniant a Chyflogaeth

Byddai myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn gymwys i wneud cais i gyrsiau HND neu gyrsiau gradd mewn maes pwnc cysylltiedig.

Mae nifer o lwybrau dilyniant i AU o'r cwrs hwn sy'n cynnwys graddau mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg; Hanes; Athroniaeth, Newyddiaduraeth; y Cyfryngau; Astudiaethau Cymdeithasol; Seicoleg, Cymdeithaseg; Daearyddiaeth; Astudiaethau Amgylcheddol; y Gyfraith, Athroniaeth, Diwinyddiaeth, Addysg Gynradd, Gwaith Cymdeithasol; Astudiaethau Cynghori, a Throseddeg a llawer mwy.

Mae myfyrwyr Mynediad llwyddiannus o’r cwrs Mynediad yng Ngholeg Sir Gâr wedi mynd ymlaen i astudio gwahanol gyrsiau mewn prifysgolion ledled y DU ac wedi dilyn rhaglenni graddedig mewn Gwaith Cymdeithasol, llywodraeth leol a swyddi Gweinyddol yn y GIG ar ôl eu hastudiaethau Addysg Bellach.

Llwyddodd myfyriwr diweddar i sicrhau lle ym Mhrifysgol King’s College ar gwrs y Cyfryngau a Newyddiaduraeth ar ôl symud ymlaen i'r cwrs Mynediad o'r ddarpariaeth Cyn-Mynediad/SFFS gyda Choleg Sir Gâr.

Asesu'r Rhaglen

Er nad yw cyflawni'r Diploma ei hun yn dibynnu ar basio arholiad, bydd pob modiwl yn cael ei asesu trwy gyfuniad o ddulliau:

  • Asesiadau dan Reolaeth (llyfr agored a chaeedig)
  • Paratoi astudiaethau achos
  • Traethodau
  • Cyflwyniadau grŵp ac unigol
  • Dadleuon grŵp
  • Adroddiadau gwerthusol
  • Posteri academaidd

Gofynion y Rhaglen

Bydd gofyn i fyfyrwyr gael gradd C mewn TGAU Saesneg a Mathemateg. Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 18 oed cyn dechrau’r cwrs hwn ym mis Medi.

Bydd yn rhaid i ymgeiswyr heb y cymwysterau perthnasol, neu gyfwerth, wneud cwrs SFFS (cyn-Mynediad) yn gyntaf ynghyd â'r pynciau TGAU perthnasol, fel bo'r angen, i sicrhau eu bod yn gallu symud ymlaen i'r llwybr addas. Cynigir y cwrs SFFS yn rhan-amser gyda'r nos, neu yn llawn amser dros dri diwrnod ar gampws y Graig

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

 

 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.