Mae Byddwch Actif wedi’i sefydlu yng Ngholeg Sir Gâr ers 2009.
A elwid gynt yn 5x30, cafodd y rhaglen ei sefydlu a'i chynllunio i ysbrydoli myfyrwyr i ymgysylltu â chwaraeon a gweithgaredd corfforol.
Roedd 5x30 yn fenter gan Chwaraeon Cymru i annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol am 30 munud, pum diwrnod yr wythnos.
Deuddeg mlynedd yn ddiweddarach, mae Byddwch Actif wedi esblygu i fod yn rhaglen sydd wedi'i chynllunio'n benodol i fyfyrwyr (ac yn aml gan fyfyrwyr) i barhau ar y siwrnai actif honno yn y coleg - yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion a thu hwnt.
Mae yna amryfal ffyrdd o gymryd rhan yn Byddwch Actif; chwaraeon tîm, dosbarthiadau amser cinio, sesiynau galw heibio, gwersi wedi'u hamserlennu, cydio a mynd, cystadlaethau, digwyddiadau, gwirfoddoli a mwy.