Byddem yn hoffi clywed oddi wrthych, mae adborth cadarnhaol a negyddol am eich profiad o gael eich asesu bob amser yn fuddiol. Er mwyn ein helpu i wella ein gwasanaeth a wnewch chi gwblhau’r holiadur asesu a geir ar:
http://www.dsa-qag.org.uk/student-survey.html
Os oes gennych unrhyw bryderon am y Ganolfan yna dilynwch y weithdrefn isod.
Gweithdrefn Gwyno
Mewn achos o gwyn gan gleient, dylai’r gweinyddwr a/neu’r aseswr anfon unrhyw broblemau o’r fath ymlaen at Reolwr y Ganolfan a ble bynnag y mae’n bosibl, dylid setlo’r gwyn yn gyflym ac yn gyfeillgar. Os nad yw staff y ganolfan yn gallu setlo cwyn yn anffurfiol, caiff cleientiaid eu cynghori i ffurfioli eu hanghydfod trwy ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Recriwtio Dysgwyr a fydd wedyn yn cychwyn Gweithdrefn Gwyno ffurfiol Gwasanaethau Mynediad Sir Gaerfyrddin (CAS).
Gwella ein gwasanaeth
Mae eich cwynion, eich sylwadau a’ch canmoliaethau yn darparu adborth defnyddiol i ni ac yn ein helpu i wella’r hyn yr ydym yn ei wneud. Byddwn yn cadw log o’ch cyfathrebu er mwyn ein helpu ni i fonitro ein gwasanaeth.
Mae cwynion yn dweud wrthym pryd nad ydych yn hapus â gwasanaeth ac mae hyn yn rhoi cyfle i ni gywiro pethau.
Mae sylwadau yn darparu syniadau ynglyn â sut y gallwn wella gwasanaeth neu arbed arian.
Mae canmoliaethau yn rhoi gwybod i ni pryd rydych chi’n hapus â gwasanaeth yn y coleg ac yn dweud wrthym pan fydd rhywbeth yn gweithio’n dda. Gallwn wedyn rannu’r arfer da hwn â gwasanaethau eraill.
Cwynion
Os ydych yn gwneud cwyn yn bersonol neu dros y ffôn, byddwn yn ceisio datrys y broblem ar unwaith.
Os oes angen mwy o amser arnom i edrych i mewn i’r mater, byddwn yn ceisio ymateb o fewn y graddfeydd amser isod.
 phwy y dylech gysylltu
Os ydych chi eisiau gwneud cwyn, sylw neu ganmoliaeth cysylltwch â: Canolfan Fynediad Coleg Sir Gâr Adeilad Norah Isaac Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant Campws Caerfyrddin Caerfyrddin SA31 3EP Ffôn: 01267 225191 E-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Ein hamserau ymateb targed
Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith i dderbyn eich cwyn. Fel rheol bydd ein hymateb yn delio â’r mater.
Os oes angen mwy o amser arnom er mwyn ymchwilio, byddwn yn esbonio pam ac yn ceisio ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn eich cwyn.
Os oes angen i ni gael mwy o wybodaeth oddi wrthych, byddwn wedyn yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn hyn.
Os na allwn ymateb o fewn y graddfeydd amser uchod, byddwn yn dweud wrthych y rheswm am yr oedi a phryd y gallwch ddisgwyl ein hymateb.
Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb
Gallwch ysgrifennu at y Prifathro a gofyn am i ymchwiliad gael ei wneud i’r mater. (Campws Llanelli, Heol Sandy, Llanelli. SA15 4DN)
Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, gallwch ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Corfforaethol. (Campws Llanelli, Heol Sandy, Llanelli. SA15 4DN)
Yn yr achos annhebygol o fod y broblem yn dal i fod heb gael ei datrys mewn modd sy’n eich bodloni, gallwch gysylltu â’r Grwp Sicrhau Ansawdd Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA-QAG).
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.