Mae gwella safonau mewn Addysgu a Dysgu bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Mae hi’n dra hysbys mai athrawon sy’n cael yr effaith fwyaf ar ddysgwyr ac yn hyn o beth, mae’r Coleg wedi annog datblygu’r gweithlu o ymarferwyr addysgu i wella profiad y dysgwr. Trwy sesiynau datblygiad staff teilwredig neu gymryd rhan mewn prosiectau coleg cyfan sydd wedi ennill gwobrau, mae’r Coleg wedi herio gweithwyr proffesiynol i adfyfyrio ar eu hymarfer ac i wneud gwelliannau yn eu gwaith trwy feithrin creadigrwydd ac ysbrydoli arloesedd.
Mae technoleg yn symud yn gyflym ac mae’r Coleg wedi ymdrechu i ddiwallu anghenion dysgwyr trwy ddefnyddio meddalwedd pwrpasol neu ystod o lwyfannau dysgu ar-lein sy’n ennyn diddordeb dysgwyr ac yn rhoi iddynt sgiliau digidol ar gyfer swyddi presennol ac yn y dyfodol. Bydd datblygu sgiliau yn parhau
Graig Campus Sandy Road Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Coleg Sir Gar is a company limited by guarantee registered in England and Wales No. 08539630 and is a registered charity No. 1152522. The registered office is at The Graig Campus, Sandy Road, Pwll, Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN