Mae’r coleg yn cynnig ystod eang o gyrsiau prifysgol achrededig ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a llawn amser. Mae’r cyrsiau’n amrywio o’r llu o gyrsiau gradd mewn celf a dylunio a gynigir mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, i ystod o ddarpariaeth ran-amser mewn meysydd megis rheoli busnes a pheirianneg.
Astudio yn Sir Gaerfyrddin
Lleolir Sir Gaerfyrddin ar arfordir de-orllewin Cymru. Mae ganddi arfordiroedd a thraethau hardd yn ogystal ag atyniadau hanesyddol megis cestyll yn dyddio nôl i’r 13eg ganrif. Mae’r sir hefyd yn gartref i dy cwch y bardd o Gymro Dylan Thomas yn Nhalacharn a nifer o drefi glan môr llawn cymeriad. Yn ogystal â chefn gwlad ceir hefyd nifer helaeth o drefi ar draws Sir Gaerfyrddin sy’n cynnig siopau’r stryd fawr, caffis modern, bwytai, tafarndai a chlybiau, a fydd yn rhoi cyfle i chi gael seibiant o’ch astudiaethau pan fydd angen.
Trwy’r awyr: Y maes awyr agosaf yw Maes Awyr Caerdydd (CIA) sydd rhyw 1.5 awr o daith i Sir Gaerfyrddin
Mewn Car: Gallwch gyrraedd Sir Gaerfyrddin o’r prif goridor M4 tua’r gorllewin. Gadewch ar gyffordd 48 am gampysau Llanelli, y Gelli Aur a Rhydaman a chyffordd 49 am gampysau Ffynnon Job a Phibwrlwyd.
Cludiant Cyhoeddus: Y gorsafoedd trên agosaf i’r coleg yw Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman ac mae yna nifer o gysylltiadau da ar gyfer bysiau cenedlaethol a theithio ar fysiau lleol.
Graig Campus Sandy Road Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Coleg Sir Gar is a company limited by guarantee registered in England and Wales No. 08539630 and is a registered charity No. 1152522. The registered office is at The Graig Campus, Sandy Road, Pwll, Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN