

Cyrsiau Adeiladu
Mae maes cwricwlwm yr Amgylchedd Adeiledig yn rhan o’r Gyfadran Adeiladu ac Amaethyddiaeth ac mae ganddo 340 o ddysgwyr llawn amser a 350 o brentisiaid a dysgwyr rhan-amser, gyda’r rhan fwyaf o’r addysg a hyfforddiant sydd yn ymwneud ag adeiladu'n cael ei gyflwyno ar Gampws Rhydaman.
Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys crefftau adeiladu, crefftau gwaith plymwr a chrefftau trydanol, cyrsiau technegydd adeiladu a rheolaeth. Yn ogystal mae’r cwricwlwm yn cyflwyno cymwysterau adeiladu Lefel 2 i dros 300 o ddisgyblion ysgol blwyddyn 10 ac 11 ar gampws Rhydaman ac yn y Ganolfan Sgiliau Galwedigaethol bwrpasol yn Ysgol Bryngwyn, Llanelli.
Mae maes cwricwlwm yr Amgylchedd Adeiledig hefyd yn cynnig ystod eang o gyrsiau byr sy'n cynnig darpariaeth deilwredig i ddiwallu anghenion cyfredol y diwydiant a’i anghenion yn y dyfodol. Mae’r adran Amgylchedd Adeiledig yn parhau i dderbyn llawer o anrhydeddau a gwobrau am ei deilliannau dysgu, ei chyswllt â chyflogwyr a'i rhaglenni arloesol. Mae cyfranogiad gan y maes cwricwlwm mewn cystadlaethau sgiliau hefyd wedi'i ymgorffori'n dda gyda dysgwyr yn ennill nifer o fedalau mewn amrywiol gystadlaethau sgiliau.