Skip to main content

HNC Rheolaeth a Thechnoleg Adeiladu

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • 18 Mis

  • Campws Rhydaman 

Mae rheolaeth adeiladu yn cynnig llwybr dilyniant gyrfaol eang gyda nifer o rolau tra chyfrifol mewn diwydiant sy’n tyfu’n gyflym.

Dilysir a dyfernir y rhaglen 18 mis ran-amser hon gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant a bwriedir iddi adeiladu ar y wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd o ganlyniad i astudiaeth flaenorol neu brofiad. 

Fe'i cynlluniwyd i ddarparu cymhwyster sy'n addas ar gyfer y bobl hynny sydd eisoes yn ymarfer, y rheiny sy'n bwriadu ymarfer fel uwch dechnegwyr a'r rheiny sydd am symud ymlaen i astudiaeth bellach. 

Nodweddion y Rhaglen
  • Cynllun modiwlaidd
  • Cydnabyddir gan gyrff diwydiannol a phroffesiynol fel y Sefydliad Adeiladu Siartredig
  • Cymhwyster annibynnol
  • Astudio rhan-amser
Cynnwys y Rhaglen

Mae'r rhaglen fodiwlaidd yn cynnwys o leiaf saith modiwl penodol.  Dyfernir y cymhwyster llawn pan fydd yr holl fodiwlau wedi'u cwblhau.   

Modiwlau Penodol -

  • Cyfraith a Chontract Amgylchedd Adeiledig
  • Technoleg Adeiladu 1
  • Iechyd, Diogelwch, Lles a Risg mewn Adeiladu
  • Tendro ac Amcangyfrif
  • Syrfeo a Mesur Adeiladau
  • Deunyddiau a Gwyddoniaeth
  • Rheolaeth Safleoedd
Dilyniant a Chyflogaeth

Gall cwblhau'r HNC yn llwyddiannus wella rhagolygon gyrfa o fewn y diwydiant adeiladu a chyfleoedd cyflogaeth cysylltiedig megis gydag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, ymddiriedolaethau gwasanaeth iechyd, cyfleustodau wedi'u preifateiddio a diwydiannau eraill sy'n berchen ar eiddo. Gellir uwchraddio'r cymhwyster i radd sylfaen gydag astudiaeth bellach.

Dull asesu

Asesir y modiwlau trwy gyfuniad o aseiniadau, prosiectau, profion cyfnodol ac arholiadau. 

Gofynion Mynediad
  • Cymhwyster technegol lefel 3 sy'n gysylltiedig ag adeiladu
  • Dau gymhwyster Safon Uwch
  • Myfyriwr hŷn gyda phrofiad, yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus
  • NVQ Lefel 3 mewn disgyblaeth sy'n gysylltiedig ag adeiladu
Costau Ychwanegol

Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.