Skip to main content

BSc (Anrh) Rheolaeth a Thechnoleg Adeiladu

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • 2 flynedd

  • Campws Rhydaman 

Mae rheolaeth adeiladu yn ddewis gyrfa cyffrous sydd ag ystod o gyfrifoldebau a phosibiliadau o fewn diwydiant sy’n tyfu’n gyflym iawn.

Mae'r rhaglen radd ddwy flynedd ran-amser hon yn cael ei dilysu a'i achredu gan Brifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a bwriedir iddi ddarparu rhaglen astudio gydlynol sy'n datblygu'r sgiliau damcaniaethol, ymarferol a rheolaeth sy'n angenrheidiol i fodloni gofynion diwydiant deinamig sy'n newid yn gyflym. 

Fe'i cynlluniwyd i ddarparu cymhwyster sy'n addas ar gyfer y bobl hynny sydd eisoes yn ymarfer, y rheiny sy'n bwriadu ymarfer fel gweithwyr adeiladu proffesiynol a'r rheiny sydd am symud ymlaen i astudiaeth bellach. 

Nodweddion y Rhaglen

Prif nod y cwrs yw diwallu anghenion newidiol yr amgylchedd adeiledig trwy baratoi'r rheiny sy'n astudio ar y lefel hon i ennill gradd gydnabyddedig sy'n bodloni anghenion y diwydiant ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r rhaglen fodiwlaidd yn cynnwys pum modiwl (cyfanswm o 120 o gredydau Lefel 6). 

Modiwlau ym Mlwyddyn 1

  • Cyfraith Contract ac Amgylcheddol Adeiladu 
  • Technoleg Adeiladu ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy 
  • Astudiaethau Rheolaeth Adeiladu 
  • Modiwlau ym Mlwyddyn 2 -  
  • Prosiect Grŵp Integredig 
  • Traethawd Hir (8,000 o eiriau)
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae'r cwrs hwn yn darparu cyfle i'r rheiny sy'n dymuno symud ymlaen, neu ddechrau, mewn ystod o yrfaoedd sy'n gysylltiedig ag adeiladu megis technoleg bensaernïol, rheolaeth prosiectau, rheoli adeiladu, tirfesur, rheolaeth safle, cynnal a chadw a gwasanaethau. 

Dull asesu

Bydd asesiad Blwyddyn 1 trwy dri aseiniad modiwl a thri arholiad.

Bydd asesiad Blwyddyn 2 trwy aseiniad prosiect grŵp integredig a thraethawd hir 8,000 o eiriau.

Gofynion Mynediad

Gradd sylfaen, neu gymhwyster HND cysylltiedig yn amodol ar reoliadau PCYDDS 

Mae'r brifysgol yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Gellir cael manylion pellach gan diwtor y cwrs.

Costau Ychwanegol

Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.